Dilyn y cystadlu ar deledu, radio, y we neu ffôn
- Cyhoeddwyd
Mae modd dilyn Eisteddfod yr Urdd drwy ap ar eich ffôn yn ogystal ag ar y teledu, y radio a'r we eleni.
Os nad ydych chi'n teithio draw i Sir Benfro ar gyfer yr ŵyl ieuenctid, dyma'r manylion am sut i wylio, gwrando a darllen:
Y we
S4C, dolen allanol - Mae gweddarllediad byw o'r Pafiliwn ar wefan S4C gydag opsiwn o sylwebaeth Saesneg gan Arfon Haines Davies. Bydd y newyddion diweddaraf am yr enillwyr ar gael ar wefan S4C a fydd hefyd yn dangos clipiau ac uchafbwyntiau o berfformiadau'r cystadleuwyr sy'n dod yn gyntaf, ail a thrydydd.
BBC Cymru - Bydd y newyddion diweddaraf o faes Eisteddfod yr Urdd ym Moncath, gan gynnwys straeon o'r maes, cyfweliadau gydag enillwyr y prif seremonïau a blog cefn llwyfan gan Nia Lloyd Jones ar wefan bbc.co.uk/cymru neu cliciwch yma.
Criw Ffilmio'r Urdd, dolen allanol - Yn ystod yr wythnos mae criw ffilmio yn crwydro'r maes yn cofnodi digwyddiadau a bwrlwm yr Eisteddfod. Mae'r ffilmiau yn cael eu uwchlwytho ar ddiwedd bob dydd.
Golwg360, dolen allanol - Mae gwefan Golwg 360 yn adrodd ar straeon yr ŵyl drwy'r wythnos.
Ffôn a dyfeisiadau symudol eraill
Mae ap newydd wedi ei ddatblygu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2013 sy'n cynnwys amserlen y cystadlu, canlyniadau a chlipiau, gweithgareddau, map a'r gallu i greu amserlen bersonol ar gyfer yr wythnos.
Ewch i wefan yr Urdd i gael mwy o wybodaeth, dolen allanol
Mae S4C hefyd yn cynnig gwasanaeth tecstio i bobl gael newyddion am enillwyr cystadleuaethau i'w ffonau symudol.
Teledu
Mae S4C, dolen allanol yn darlledu yn fyw o'r ŵyl o ddydd Llun 27 Mai i ddydd Sadwrn 1 Mehefin o 10.00am tan 5.30pm gyda rhaglen min nos.
Mae gwasanaeth botwm coch ar gael i'r di-Gymraeg am y tro cyntaf eleni.
Darlledir y cyngerdd agoriadol gyda Connie Fisher ac Ifan Jones-Evans ar nos Sul 26 Mai 8.30 ar S4C.
Radio
Mae'r darlledu ar Radio Cymru yn dechrau gydag Oedfa'r Urdd ddydd Sul, Mai 26 am 5.30am ac am 12.30pm.
Yna, o fore Llun (10.30am-1pm a 2pm-5pm) bydd holl arlwy'r llwyfan yn cael ei gyflwyno gan Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis wrth iddyn nhw sylwebu'n fyw ar y cystadlaethau. Gallwch ddilyn y cystadlu hwyr nos Iau rhwng 6-8pm a nos Wener rhwng 6.30-9pm.
Bydd Iwan Griffiths sydd yn hannu o'r ardal yn crwydro'r maes, gyda Nia Lloyd Jones gefn llwyfan yn holi'r cystadleuwyr. Bydd Nia'n creu blog dyddiol ar wefan Radio Cymru hefyd.
Daw dwy raglen yn fyw o'r maes Ddydd Llun. Cewch glywed Dafydd a Caryl rhwng 8.30-11.00am yna rhwng 1-2pm bydd Garry Owen yn Taro'r Post. Ddydd Mawrth rhwng 6.30-8.30am, daw Dylan Jones a Kate Crockett â'r newyddion diweddaraf ar y Post Cyntaf.
Mae rhaglen o uchafbwyntiau'r cystadlu ar fore Sul 2 Mehefin am 10.30am.
Nos Fercher mae cyfle i glywed drama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 ar Radio Cymru. Darlledir addasiad radio o Y Weiren Bigog gan Llyr Titus am 6.30pm.