Guto Dafydd yn Brif Lenor yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Guto Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Guto Dafydd hefyd yn barddoni yng nghystadleuthau'r Talwrn

Guto Dafydd o Ranbarth Eryri yw enillydd y goron yn Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013.

Mae'n dod yn wreiddiol o Drefor ond yn byw ym Mhwllheli ym Mhen Llŷn erbyn hyn.

Dan y ffugenw Yelizaveta ysgrifennodd stori mae'n ei disgrifio fel "pseudo-thriller i'w chymryd efo pinsiad o halen".

Dywedodd y beirniad Daniel Davies wrth draddodi o'r llwyfan ar ei ran ef a'i gyd feirniad, Lleucu Roberts, fod ei waith wedi rhoi "llond bol o chwerthin" iddyn nhw.

"Dyma awdur hyderus," meddai, "a storïwr mwyaf medrus y gystadleuaeth".

Mae Guto hefyd yn adnabyddus fel bardd sy'n ymddangos mewn nosweithiau Stomp ac yng nghystadleuthau'r Talwrn.

Dywedodd ddydd Gwener ei fod wedi bod yn cystadlu ym mhrif gystadleuaethau'r ŵyl ieuenctid ers naw mlynedd "a dod yn ail neu drydydd sawl tro".

"Dwi'n dal ddim yn coelio fod hyn wedi digwydd achos 'mod i wedi cael siom gymaint o weithiau yn y gorffennol," meddai Guto.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo'n fwy nerfus ddydd Gwener nag roedd ar gyfer ei briodas, 11 mis yn ôl i'r diwrnod.

Mae ei stori wedi cael ei disgrifio fel ffars a thriller.

"Roedd gen i ddau syniad. Ro'n i eisiau 'sgwennu ryw fath o thriller am sociopath yn dod nôl i'w fro i ddial ac ro'n i hefyd eisiau 'sgwennu darn ysgafn, eitha' 'smala ynghylch Eisteddfod Cylch yr Urdd - yn ei dathlu, yn ei hanwylo, wrth ei dychanu mewn ffordd - darn eitha direidus."

Enw merch mewn Rwsieg yw Yelizaveta a dywedodd Guto fod y ffugenw'n cynrycholi'r elfen ryngwladol sy'n perthyn i'w stori.

Archdderwydd

Cyhoeddwyd o lwyfan y brifwyl ieuenctid mai ei uchelgais yw bod yn archdderwydd.

"Roedden nhw'n gofyn beth ydy ein huchelgais ni - ond dwi'n 23, 'dwi'n hen!" meddai Guto.

"Pobl ifanc sydd ag uchelgais. 'Dwi wedi setlo i lawr, mae gen i swydd 'dwi'n ei fwynhau, 'dwi wedi priodi - beth arall sydd 'na ar ôl i'w wneud heblaw bod yn archdderwydd?"

Mae'r goron yn cael ei chyflwyno i'r Prif Lenor am ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema Dwylo.

Mae'r Prif Lenor yn ennill coron sydd wedi ei chynllunio gan Eurfyl Reed.

'Meistrolgar'

Roedd pymtheg wedi cystadlu am y goron eleni, ac yn ôl y beirniaid, roedd dau o'r rheiny o dan y llysenwau Yelizaveta a Drycin ymhell ar y blaen.

Marged Elen Wiliam o Ysgol Tryfan, Bangor, oedd Drycin, a ddaeth yn ail.

Dywedodd Daniel Davies wrth draddodi: "Trawodd stori Yelizaveta ni ar ein talcen. Cyffrôdd stori Drycin ni hyd at flaenau bodiau'n traed. Mae'r ddwy'n gampweithiau bach."

"Ffars yw'r stori," meddai am waith Guto Dafydd, "sy'n lampwnio'r creadur anffodus, Eric B Lewis, B.Mus. Oherwydd hynny, mae'n ymestyn credadwyedd y darllenydd bron i'r eithaf. Gwnaiff hynny'n ddoniol ac yn glyfar iawn, ac mae ei ddiweddglo'n feistrolgar.

"Mae Eric yn cynrychioli 'teip' ac mae'r awdur yn feistr am roi pin yn swigen y cymeriad a'i fath, gan ddefnyddio llwyfan eisteddfod i waradwyddo cymeriadau balch a gorbarchus y dosbarth canol Cymraeg. Yn bendant, mae 'na ddrych bach wedi'i droi tuag atom ni ..."

Daeth Guto yn ail am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd, Môn, a chystadlodd am y Gadair eleni hefyd. Cafodd ei goroni gan y Prif Weinidog Carwyn Jones brynhawn Gwener, 31 Mai.

Roedd yn ddisgybl yn Ysgol yr Eifl, Ysgol Glan y Môr a Choleg Meirion Dwyfor cyn mynd ymlaen i raddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Miriam Elin Jones o Ranbarth Gorllewin Myrddin ddaeth yn drydydd.