Enwi dyn fu farw ger cronfa ddŵr

  • Cyhoeddwyd
Cronfa ddŵr CantrefFfynhonnell y llun, Gareth James
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Daniel Colin Clemo ei ddarganfod ger cronfa ddŵr Cantref ym Mannau Brycheiniog

Mae heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw ger cronfa ddŵr Cantref ddydd Sul.

Cafodd corff Daniel Colin Clemo, oedd yn 24 oed ac o ardal Caerffili ei ddarganfod wedi i'r gwasanaethau brys chwilio amdano dros y penwythnos.

Cafodd yr awdurdodau eu galw i'r gronfa ddŵr ychydig cyn 3.00yh brynhawn Sul, a chafodd rhan o ffordd yr A470 ei chau rhwng Merthyr Tudful a chyffordd yr A4059 i'r gogledd o'r safle.

Yn dilyn archwiliad o'r ardal cafodd corff ei ddarganfod.

Pontsticill

Bu farw dyn arall yng nghronfa ddŵr Pontsticill dros y penwythnos hefyd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i ddyn 52 oed fethu a dychwelyd ar ôl bod i nofio yn y gronfa ddŵr ddydd Sadwrn.

Cafodd corff dyn ei ddarganfod wedi hanner awr o chwilio.

Nid yw'r heddlu wedi cadarnhau ei enw.