Datganoli 'angen bod yn ddigwyddiad, nid proses,' yn ôl y Prif Weinidog

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Jones yn credu bod angen cyfansoddiad ysgrifenedig ar y DU

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi galw am setliad datganoli cadarn mewn araith yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Gydag ychydig dros flwyddyn i fynd tan Refferendwm Annibyniaeth yr Alban, dywedodd Mr Jones ei fod yn gobeithio y byddai'r wlad yn pleidleisio o blaid aros yn y Deyrnas Unedig.

Ond ychwanegodd bod ei allu i ddadlau yn y fath fodd yn dibynnu ar beth fyddai penderfyniad Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â datganoli trethi a chaniatáu pwerau benthyg i Lywodraeth Cymru.

Mae ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion Silk - oedd yn argymell datganoli rhai trethi - bellach fisoedd yn hwyr.

Cyfansoddiad

Mewn cynhadledd ar y refferendwm wedi ei threfnu gan Undeb Sy'n Newid, dolen allanol - corff sy'n ystyried dyfodol y Deyrnas Unedig - dywedodd y Prif Weinidog fod angen cyfansoddiad newydd ar y wladwriaeth.

Byddai angen i'r cyfansoddiad hwn, yn ôl Mr Jones, gynnwys rhagdybiaeth o blaid datganoli.

"Ble mae'n gwneud synnwyr i wneud penderfyniad yng Nghymru, yna dylid gwneud hynny yng Nghymru."

Hanfod ei ddadl yw bod angen dewis arall ar bobl yn hytrach nac annibyniaeth neu'r sefyllfa bresennol.

Dywedodd hefyd ei fod eisiau i Lywodraeth y DU ymrwymo'n wirioneddol i ddatganoli am fod "y meddylfryd o dynnu llinellau diddiwedd yn y tywod, gan wrthsefyll unrhyw gynnig am ddatganoli pellach, waeth pa mor resymol ydyw, yn sicr o fethu".

'Digwyddiad nid proses'

Ychwanegodd Mr Jones: "Yn fy marn i, mae bod o blaid datganoli yn elfen hanfodol o'r athroniaeth fodern o blaid undeb [y DU].

"Mae datganoli yng Nghymru yn un o ffeithiau bywyd. Mae llawer o'r cyhoedd yn ei gefnogi fel y gwelwyd yng nghanlyniad refferendwm 2011.

"Dros y pymtheng mlynedd ddiwethaf, dro ar ôl tro rydyn ni wedi gweld rhyw botsian yma ac acw gyda'r cyfansoddiad. Rwyf am weld diwedd ar hyn.

"Mae angen inni wneud datganoli'n llai o broses ac yn fwy o ddigwyddiad.

"Unwaith y bydd refferendwm yr Alban allan o'r ffordd, rwyf am weld diwygiadau sy'n ategu ei gilydd, diwygiadau sydd, gyda'i gilydd, yn creu'r cyfansoddiad cydlynol sy'n ddiffygiol o fewn y DU ar hyn o bryd.

"Yn y pen draw mae agwedd elyniaethus tuag at ddiwygio'n cryfhau'r rhai sy'n dadlau nad yw'r DU yn gallu newid - mae'n gwthio pobl tuag at ddewis polareiddio rhwng y status quo a'r llwybr llithrig at ymwahaniaeth.

"Rhaid inni osgoi ffug ddewisiadau o'r fath."

Mae geiriau Mr Jones yn adleisio geiriau cofiadwy y cyn Ysgrifennydd Gwladol Ron Davies oedd wedi dweud mai "proses ac nid digwyddiad yw datganoli".

'O blaid datganoli'

Dywedodd fod y Deyrnas Unedig wedi cyrraedd sefyllfa lle mae angen i ddatganoli fod yn derfynol a rhoi diwedd ar y broses dameidiog oedd wedi bod yn nodweddiadol o'r sefyllfa hyd yn hyn.

"Felly gadewch inni weld sut y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb i Adroddiad Silk," meddai.

Ond dywedodd nad oedd Llywodraeth y DU yn dangos digon o barch i Lywodraeth Cymru yn y cyswllt .

Roedd Llywodraeth y DU wedi dweud y bydden nhw'n ymateb i argymhellion Silk "cyn diwedd y gwanwyn".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol