Sir Gâr: 'Cannoedd o swyddi' yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd cyngor wedi rhybuddio y gallai cannoedd o swyddi ddiflannu oherwydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Arweinydd Sir Gaerfyrddin, Kevin Madge, fod llythyrau wedi eu hanfon i staff yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol neu ymddeoliad cynnar.
Roedd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi cyhoeddi y byddai llywodraeth leol yn derbyn 6% yn llai.
Dywedodd y Cynghorydd Madge: "Dydyn ni ddim wedi wynebu sefyllfa fel hon o'r blaen ac mae'n golygu penderfyniadau anodd iawn ac amhoblogaidd."
"... ond fe wnawn ni ein gorau i amddiffyn gwasanaethau llinell flaen a cheisio osgoi diswyddo gorfodol lle bo hynny'n bosib'.
"Fe fyddwn ni'n anelu at fuddsoddi mewn iechyd, ysgolion, cartrefi ac adfywio er mwyn creu cyfleoedd i bobol leol," meddai.
"Tra'n bod ni'n derbyn bod y llywodraeth wedi ei chael hi'n anodd iawn i fantoli'r gyllideb, rydyn ni'n gobeithio y bydd Aelodau Cynulliad yn cefnogi cynghorau sy'n wynebu cyfnod anodd iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013