Cynghorau: beth fydd y map newydd?
- Cyhoeddwyd
Ddydd Llun fe fydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi fydd yn cynnwys argymhellion ynglŷn â chynghorau Cymru.
Mae'n debyg y bydd rhai penodol yn cael eu cynnig.
Nid oes manylion ar gael eto am faint o gynghorau y mae Comisiwn Williams yn eu hargymell na chwaith beth fydd eu ffiniau a'u henwau.
Ond mae'r BBC wedi derbyn gwybodaeth ynglŷn â rhai canllawiau fydd yn rhaid eu dilyn yn ystod y broses.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Ni ddylid creu cynghorau newydd o'r dechrau - yn hytrach dylid uno rhai sydd eisoes yn bodoli;
Dylid anelu at uno cynghorau lle mae'r un byrddau iechyd a lluoedd heddlu ar hyn o bryd;
Ni fydd yn bosib uno cyngor sy'n derbyn arian cymorth gan Ewrop gydag un sydd ddim;
Dylid parchu ffiniau ieithyddol - hynny yw ni ddylid uno cynghorau lle mae'r Gymraeg yn gryf gyda rhai lle mae'r Saesneg yn gryf.
Gyda'r wybodaeth hon, pensil, papur a choffi, mae Vaughan Roderick wedi bod yn ceisio dyfalu pa gynghorau fydd yn gorfod uno.
Yn y fideo uchod mae'n rhannu ei sylwadau gyda Rhodri Llywelyn.
Cafodd y sgwrs hon ei darlledu ar Newyddion Naw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2014