Datrys dirgelwch y ddraig goch

  • Cyhoeddwyd
Draig goch

Ydych chi wedi gweld y stori sydd wedi bod yn cael ei rhannu ar y we yn ddiweddar, ynglŷn â'r Cristnogion eithafol a'r ddraig goch?

Roedd hi'n brif stori ar Golwg360 am gyfnod ddydd Iau, ac mae hi bellach i'w gweld ar wefannau'r Huffington Post, dolen allanol, y Belfast Telegraph, dolen allanol a'r Irish Independent, dolen allanol.

Mae'r straeon yma i gyd yr un fath ac yn cynnwys dyfyniadau gan yr un bobl.

Gwraidd y stori yw'r hyn sydd wedi cael ei ddweud gan y Parchedig George Hargreaves o'r Blaid Gristnogol Gymreig, sy'n disgrifio'r fflag fel "symbol aflan" ac sy'n dweud na ddylai "symbol y diafol gael teyrnasu dros Gymru am eiliad arall".

Mae yna ymateb gan yr hanesydd Dr John Davies, sy'n esbonio hanes y fflag ac sy'n cloi gan ddweud: "Mae'n adnabyddus yn yr un ffordd ac mae Jac yr Undeb neu'r Stars and Stripes."

Gwnewch nodyn meddyliol o'r dyfyniadau yma.

Cyd-ddigwyddiad ta rhywbeth arall?

Dechreuodd y straeon hyn ymddangos ddydd Iau.

Digwydd bod ro'n i wedi sylwi ar stori debyg iawn yn gynharach yn yr wythnos, ar wefan WalesOnline, dolen allanol. Stori debyg iawn, iawn.

Am ryw reswm roedd stori am Gristnogion yn enllibio'r Ddraig Goch wedi bod ymysg y pum stori oedd yn cael y mwyaf o glics ar y wefan yno drwy gydol yr wythnos.

Roeddwn i'n methu â deall pam bod y stori yma, gafodd ei chyhoeddi Mawrth 3, 2007 yn cael gymaint o ymweliadau.

Yna fe welais bod nifer o fy ffrindiau yn rhannu'r stori ar wefannau cymdeithasol, heb sylwi ar y dyddiad cyhoeddi. Dyna esbonio pam roedd hi'n cael gymaint o glics - roedd rhywun wedi gweld a'i rhannu, ac roedd eraill wedi ei rhannu wedyn ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Pan welais i gopi gan Press Association yn systemau mewnol y BBC brynhawn dydd Iau am y Parchedig George Hargreaves yn disgrifio'r fflag fel "symbol aflan" ac sy'n dweud na ddylai "symbol y diafol gael teyrnasu dros Gymru am eiliad arall", mi godais ael.

Rheol Aur

Yn y stori, oedd yn 'gyfredol' ar Mai 22 roedd yna ddyfyniad gan... Dr John Davies.

"Mae'n adnabyddus yn yr un ffordd ac mae Jac yr Undeb neu'r Stars and Stripes," meddai Dr Davies. Hmm.

A dyna ddatrys y dirgelwch. Fe welodd rhywun o Press Association y stori ymysg y pump uchaf ar wefan WalesOnline ac fe aeth ati i'w chopïo, heb sylwi ar y dyddiad y cafodd ei chyhoeddi'n wreiddiol.

Fe wnaethon nhw yrru cywiriad yn fuan wedyn, ond roedd hi rhy hwyr i stopio sefydliadau newyddion ledled y byd - o Iwerddon i America - rhag ei chyhoeddi.

Mae'r straeon eraill sydd o amgylch y we i gyd yn deillio o'r stori hon. Mae'r Press Association yn cael ei ystyried i fod yn ffynhonnell gwbl ddibynadwy, felly wnaeth pobl ddim gwirio'r ffeithiau er mwyn sicrhau bod y stori'n gywir.

Dyw selio stori ar un ffynhonnell 'ddibenadwy' ddim yn arferiad anarferol y dyddiau hyn, yn enwedig pan mae pobl yn disgwyl cael yr holl newyddion cyn gynted â phosib.

Ond mae dirgelwch y ddraig yn brawf bod Rheol Aur newyddiaduraeth yr un mor berthnasol ag erioed - gwiriwch eich ffeithiau!