Freddie Welsh: "Arwr cyn ei amser"
- Cyhoeddwyd
Roedd Freddie Welsh nid yn unig yn arloeswr yn y sgwar bocsio roedd o hefyd ymhlith y cyntaf i ddeall pwysigrwydd maeth ym myd y campau.
Yn wahanol i'r bocswyr enwog eraill o Gymru ar ddechrau'r 20fed ganrif, daeth Frederick Hall Thomas o gefndir cymharol gyfoethog.
Cafodd Freddie ei eni ym Mhontypridd ar 5 Mawrth 1886 yn fab i arwerthwr, John Thomas. Oherwydd ei gefndir breintiedig cafodd ei anfon i ysgol breifat Long Ashton College ym Mryste.
Chwant am antur
Pan yn 16 oed aeth Freddie a thri o'i ffrindiau i Ganada i chwilio am antur. Daeth ei gyfeillion o hyd i waith ond methodd y Cymro a setlo ac roedd ganddo hiraeth.
Ond yng Nghanada y dechreuodd diddordeb Freddie mewn magu cyhyrau a pha fwydydd i'w bwyta er mwyn gwneud hynny yn effeithiol.
Daeth yn ol i Gymru a theithio mor bell a'r Alban er mwyn gwneud yn siwr na fyddai ei fam yn dod i wybod ei fod yn cymryd rhan mewn gornestau. O fewn blwyddyn yr oedd wedi arbed digon o arian ar gyfer antur arall. Y tro hwn hwyliodd am America.
Roedd dod o hyd i waith yn anodd a bu'n byw fel crwydryn am fisoedd cyn cael swydd fel hyfforddwr bocsio yn Efrog Newydd am gyflog o $1 y dydd. Bu'n rhaid iddo gysgu yn y gampfa ac roedd hi'n gamp ynddi ei hun iddo gadw dau ben llinyn ynghyd.
'Fred Cymry'
Roedd Freddie yn focsiwr addawol a cafodd sawl cynnig i droi yn broffesiynol ond gwrthod wnaeth o bob tro tan iddo gymryd rhan mewn gornest breifat answyddogol. Lloriodd Freddie ei wrthwynebydd a sylweddoli bod y wobr yn un fyddai'n ei alluogi i wella ansawdd ei fywyd.
O 1905 ymlaen gweithiodd Freddie yn galed i fesitrioli ei grefft. Doedd cysgod ei fam ddim yn bell. Doedd o ddim eisiau iddi hi wybod ei fo o bellach yn baffiwr proffesiynol, felly newidiodd ei enw. 'Fred Cymry' oedd ei ffug enw gwreiddiol, ond ar gyngor ei wraig, Fanny, newidiodd yr enw i 'Fred Welsh'. Roedd hi'n credu bod 'Cymry' yn ddryslyd.
Arwr
Doedd hi ddim yn dasg hawdd i Freddie blesio ei gyd-Gymry chwaith fel yr eglura'r hanesydd bocsio Wynford Jones:
"Ar ddechrau ei yrfa doedd Welsh ddim yn boblogaidd yng Nghymru. Ond pan ddaeth 'nôl o America i guro Johnny Summers i ennill Pencampwriaeth Pwysau Ysgafn Prydain a'r National Sporting Club Challenge Belt (Gwregys Lonsdale erbyn heddiw) roedd yn cael ei weld fel y gorau ym Mhrydain yn ei bwysau."
Daeth awr fawr Freddie Welsh ar drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei goroni yn Bencampwr Pwysau Ysgafn y Byd yn Olympia yn Llundain ar ôl curo Willie Ritchie. Daeth miloedd o bobl i strydoedd Pontypridd i groesawu'r arwr lleol gartref. Ond roedd America yn ormod o atyniad o hyd meddai Wynford Jones:
"Aeth yn ôl i'r Unol Daleithiau i gymryd mantais o'r rheol No Decision. Roedd hynny yn golygu y gallai bocswyr frwydro heb orfod ildio'r gwregysau yr oedden nhw eisoes wedi eu hennill."
Y Dirwasgiad a chwymp Freddie Welsh
Roedd Freddie Welsh yn ddyn cyfoethog ond byr oedd y cyfnod dedwydd fel yr eglura Wynford Jones:
"Gwnaeth ddigon o arian i brynu fferm adfer iechyd ac roedd yn cymysgu gydag enwogion yr oes, megis yr awdur F. Scott Fitzgerald a'r bocsiwr pwysau trwm, Jack Dempsey.
"Yn anffodus fe ddirywiodd y sefyllfa economaidd yn yr 1920au, ac felly hefyd cyfoeth Freddie, gyda'i ffrindiau honedig yn ei adael. Bu farw ar ben ei hun mewn fflat a oedd yn edrych dros Broadway yn Efrog Newydd.
Arloeswr
Mae Wynford Jones yn credu bod gan Freddie Welsh waddol y tu hwnt i'r sgwar bocsio:
"Mewn gwirionedd roedd Freddie flynyddoedd cyn ei amser.
"Roedd yn feistr ar baffio'n amddiffynnol ac roedd hefyd yn gallu delio â pha mor gorfforol oedd y gamp yn yr UDA. Roedd yn ddarllenwr mawr, yn fitness fanatic yn llysieuwr ac yn deall y cysylltiad rhwng maeth a chwaraeon.
"Yn 2014 mae gan y rhan fwyaf o focswyr strength and conditioning coach, heb sôn am arbenigwyr maeth - roedd Freddie yn deall pwysigrwydd rhain gan mlynedd yn ôl
"Heb os, mae Freddie Welsh yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â Jim Driscoll a Jimmy Wilde fel un o focswyr gorau Cymru erioed."