Penodi Guto Harri i Awdurdod S4C
- Cyhoeddwyd
Mae Guto Harri'n un o dri sydd wedi cael eu penodi i fod ar Awdurdod S4C, yn dilyn cyhoeddiad gan lywodraeth Prydain.
Y ddau arall fydd yn ymuno â'r Awdurdod yw Sian Lewis a Hugh Hesketh Evans.
Mae Guto Harri yn newyddiadurwr a gohebydd profiadol, sydd wedi bod yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus i Boris Johnson ac sydd bellach yn gwneud yr un swydd i gwmni Rupert Murdoch, News UK.
Dechreuodd ei yrfa gyda BBC Cymru lle aeth ymlaen i ohebu yn yr Almaen wrth i gomiwnyddiaeth ddod i ben yno, o Rwmania yn ystod y gwrthryfel yn erbyn Nicolae Ceaucescu ac o Irac yn ystod Rhyfel y Gwlff.
Mae Sian Lewis wedi gweithio i'r Urdd a Menter Iaith Caerdydd, lle mae hi bellach yn brif weithredwr.
Huw Evans yw arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ers 2007. Yn gynghorydd annibynnol, mae wedi bod yn arweinydd i'r grŵp aelodau annibynnol yng Nghymru ac yn llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA).
Mae Mr Harri a Ms Lewis wedi cael eu penodi fel aelodau cyffredinol i'r Awdurdod tra bod cyfrifoldeb ychwanegol gan Mr Evans, sef cadeirio'r Pwyllgor Archwilio.
Mae Awdurdod S4C yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am ddarparu rhaglenni Cymraeg y sianel, yn ogystal â goruchwylio'r ffordd mae'n cael ei rheoli.
Un o ddyletswyddau'r corff yw darganfod beth yw barn y gynulleidfa am y rhaglenni sy'n cael eu darlledu yn ogystal â pha raglenni fyddai pobl yn hoffi eu gweld.
Aelodau'r Awdurdod:
Huw Jones (Cadeirydd)
Dr Carol Bell
Y Cynghorydd John Davies
Aled Eirug
Marian Wyn Jones
Elan Closs Stephens
Rheon Tomos
Guto Harri
Sian Lewis
Hugh Hesketh Evans
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012