Arlwy'r Eisteddfod ar BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Os methwch chi â bod yn Llanelli does dim rhaid colli dim o'r hwyl, y cystadlu, y cyngherddaun ac awyrgylch y prif faes - oherwydd bydd gan BBC Cymru ddarpariaeth estynedig o holl ddigwyddiadau'r Eisteddfod - ar deledu, radio ac ar-lein drwy gydol yr ŵyl.
BBC Cymru Fyw
Yma ar wefan BBC Cymru Fyw, bydd modd gwylio fideo byw o'r pafiliwn drwy'r dydd, a gweld canlyniadau ac uchafbwyntiau'r cystadlu. Yn ogystal, bydd y newyddion diweddaraf o'r maes ac orielau o luniau dyddiol ar gael.
Llif byw o'r Pafiliwn, uchafbwyntiau'r cystadlu a'r canlyniadau'n llawn ar BBC Cymru Fyw
BBC Cymru ar S4C
Bydd BBC Cymru yn gofalu bod gan wylwyr sêt flaen yn y Steddfod - a hynny heb symud o'r soffa. Nia Roberts fydd yn llywio'r rhaglenni byw dyddiol ar S4C tra bydd Iolo ap Dafydd, Hanna Hopwood ac Iwan Griffiths yng nghefn y llwyfan yn sgwrsio gyda'r cystadleuwyr ac yn cyflwyno holl ddigwyddiadau ac atyniadau eraill y maes.
Gyda'r hwyr, Dewi Llwyd fydd yn rhoi blas o ddigwyddiadau'r dyddyn Mwy o'r Maes, heblaw nos Fercher a nos Wener pan fydd darlledu llawn o'r cystadlu yn fyw o lwyfan y pafiliwn.
Rhaglen y Dydd: Sadwrn - 9.30am; Sul - 10.30am; Llun i Sadwrn - 10am
Mwy o'r Maes: Sadwrn - 8.00pm; Sul - 6.40pm; Llun a Mawrth - 8.25pm a 9.15pm; Iau - 8.25pm a 9.15pm
Oedfa'r Eisteddfod: Sul - 9.30am
Y Gymanfa Ganu: Sul - 8pm
Gwyliwch yr Eisteddfod yn fyw ac ar alw drwy'r wythnos ar a S4C, dolen allanol
Radio Cymru
Ar BBC Radio Cymru, bydd Post Cyntaf a Rhaglen Dylan Jones yn dechrau'r darlledu dyddiol gydol yr wythnos. O ganol y bore Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis ddaw â holl hanes y cystadlu ar y prif lwyfan tra bydd trafodaeth fyw ar bynciau llosg y dydd ar Taro'r Post am 1pm gyda Garry Owen yn fyw o'r maes.
Am 1.30pm bydd uchafbwyntiau'r Babell Lên a bydd Beti George ynghanol y gweithgareddau fel arfer gyda Tocyn Wythnos yn dilyn Post Prynhawn. Yna'n hwyrach gyda'r nos bydd criw C2 yn darlledu o rai o gigs yr Eisteddfod.
Amserlen lawn a gwybodaeth am raglenni Radio Cymru o Eisteddfod 2014
Radio Wales
Bydd yr Eisteddfod hefyd yn cael sylw yn ystod rhaglenni BBC Radio Wales gyda Bethan Elfyn a Jason Phelps yn dod â blas dyddiol o'r maes i raglenni Jason Mohammad ac Eleri Siôn. A bydd rhaglen newyddion y prynhawn Good Evening Wales a Radio Wales Arts Show yn dod yn fyw o'r maes ddydd Mercher.
Ewch i wefan Radio Wales am fwy o wybodaeth