Jamie Donaldson: Arwr Cwpan Ryder Ewrop
- Cyhoeddwyd

Jamie Donaldson yn cael ei longyfarch gan Keegan Bradley
Mae Ewrop wedi ennill Cwpan Ryder yn Gleneagles - ac roedd gan Jamie Donaldson o Gymru ran flaenllaw yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Unol Daleithiau.
O dan bwysau mawr fe wnaeth Donaldson drechu Keegan Bradley (5&3) - ac roedd yna ddathlu mawr wrth i Keegan Bradley ildio.

Roedd hi'n ddiweddglo anhygoel i gystadleuaeth Cwpan Ryder cyntaf y chwaraewr o Bontypridd.
Fe gyrhaeddodd Ewrop eu targed o 14 pwynt yn ddigon cyfforddus - wrth iddyn nhw gynnal eu mantais dros nos o bedwar pwynt yn ystod prynhawn emosiynol i'r chwaraewyr yn yr Alban.

Jamie Donaldson a Rory McIlroy yn mwynhau'r fuddugoliaeth