Cynnydd aruthrol mewn siopau tatŵs yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
tatŵFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffigyrau a gasglwyd gan BBC Cymru yn dangos fod cyfanswm siopau tatŵs yng Nghymru wedi esgyn dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae adroddiad newydd gan Experian ar gyfer Prydain gyfan wedi dod i'r casgliad fod nifer y parlyrau ledled y DU wedi cynyddu 173% yn ystod y degawd diwethaf.

Mae ystadegau BBC Cymru, a gasglwyd drwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, yn dangos fod gan Gaerdydd ddim ond tri pharlwr tatŵ yn 1994, o'i gymharu â 48 erbyn hyn- y nifer uchaf o unrhyw ardal yng Nghymru.

Wedi cyrraedd uchafbwynt

Er bod yr ystadegau yn cadarnhau cynnydd mewn parlyrau ar y stryd fawr yng Nghymru, maent hefyd yn awgrymu fod y tŵf wedi cyrraedd ei uchafbwynt.

Roedd gan Gaerdydd fwy o stiwdios tatŵ flwyddyn yn ôl - sef cyfanswm o 56 - sydd wyth siop yn fwy na'r 48 sydd ar agor yn 2014, ac mae'n ymddengys fod y cynnydd wedi arafu mewn ardaloedd eraill hefyd.

Mae ffigyrau'r llynedd ar gyfer 18 o'r 22 ardal yng Nghymru yn datgelu bod llai o barlyrau nawr na 12 mis yn ôl.

Erbyn hyn mae dros 330 o siopau tatŵs trwyddedig yn y wlad - sy'n fwy nag un ar gyfer pob 10,000 o'r boblogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma un siop tatŵ yn Nhrefforest

Nid oedd gan ardaloedd fel Conwy, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg, unrhyw siopau tatŵs 20 mlynedd yn ôl, ond mae gan bob un rhwng 12 a 15 awr.

Mor ddiweddar â 2004, doedd dim ond 61 parlwr mewn 13 o ardaloedd yng Nghymru lle mae ffigyrau presennol yn dangos fod 218 yn yr un ardaloedd hynny.

Galw cyfarfod

Dywedodd Sion Smith, golygydd y cylchgrawn Skin Deep, fod tatŵio wedi dod yn fwy deniadol a phoblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae parlyrau wedi agor i ateb y galw.

"Ond dim ond nifer penodol o bobl sydd am gael tatŵ," meddai.

"Mewn ardaloedd mwy gwledig o Gymru, unwaith bydd y bobl yma wedi cael eu tatŵs, yna byddai'r pwll o gwsmeriaid yn crebachu'n gyflym iawn."

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod lefel isel o erlyniadau yn erbyn siopau trwyddedig.

Dywedodd Mr Smith fod erlyniadau o siopau cofrestredig wastad yn brin iawn. Ond ychwanegodd ei bod yn "bwysig iawn" i gymryd camau yn erbyn arlunwyr tatŵ sydd heb eu cofrestru er mwyn gwarchod y diwydiant.

"Y bobl sy'n dioddef yw'r cleientiaid a'r artistiaid tatŵ cyfreithlon gan eu bod yn tueddu i gael eu paentio gyda'r un brwsh," meddai.