Llawenydd a Llanast
- Cyhoeddwyd
Ers pum mlynedd mae'r darlledwr Huw Edwards wedi bod yn ymchwilio i hanes capeli Cymraeg Llundain. Mae cyfrol yn seiliedig ar ffrwyth ei lafur - 'City Mission: The Story of London's Welsh Chapels' - yn cael ei chyhoeddi gan y Lolfa ar Hydref 17.
Mewn blog i BBC Cymru Fyw mae Huw Edwards yn datgelu rhai o'r ffeithiau diddorol y daeth ar eu traws wrth baratoi'r llyfr.
Blas y ddinas
Bydd nifer ohonoch chi Gymry balch yn ystyried eich hunain, heb os, yn arbenigwyr ar Lundain a'i hardaloedd a'i strydoedd. Bydd rhai ohonoch wedi treulio amser yno fel myfyrwyr; bydd eraill wedi gweithio yno am gyfnod; bydd amryw wedi ymweld â pherthynas neu ffrind ac wedi mwynhau'r profiad o flasu bywyd un o ddinasoedd mawr y byd.
Bydd ambell un hyd yn oed wedi treulio noson yng Nghanolfan Cymry Llundain, Gray's Inn Road, lle bu Ryan Davies, Richard Burton, Hafina Clwyd, Caradog Pritchard, Gwyneth Jones a'u tebyg yn diddanu cynulleidfaoedd mawr yn eu dydd.
Mae'r ganolfan yn dal i fod yn gyrchfan i filoedd o Gymry bob blwyddyn, yn enwedig ar ddiwrnod gêm ryngwladol. Bydd awyrgylch arbennig iawn yno a phawb yn manteisio ar gyfle i ddathlu eu Cymreictod ym mhrifddinas Lloegr.
Hybu Cymreictod
Ond tybed faint ohonoch chi sy'n ymwybodol o'r canolfannau Llundeinig hynny a fu'n hybu Cymreictod o fath gwahanol iawn dros gyfnod o 250 mlynedd? Canolfannau crefyddol yw'r rhain, ac mae'n sicr y bydd gweld y gair 'crefyddol' yn gorfodi nifer ohonoch i gau'r dudalen hon yn ddi-oed.
Ond arhoswch eiliad: dylai unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes Cymru a'r Cymry oedi ychydig cyn ffoi.
Bu capeli ac eglwysi Cymraeg Llundain - gymaint â 31 ohonynt ar drothwy'r Ail Ryfel Byd yn 1938-39 - yn ddylanwadau pwerus ar fywyd crefyddol, cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol Cymru. Codwyd capeli mawr fel Jewin, Charing Cross Road ac Eastcastle Street yng nghanol bwrlwm y ddinas.
Codwyd eraill mewn ardaloedd poblog fel Harrow, Walthamstow, Battersea, Willesden, Mile End, Stratford, Paddington, Hammersmith, Ealing, Fulham, Cockfosters, Wembley, Islington, Leytonstone, Borough, Lewisham a Sutton. Dylem gofio yn ogystal am yr Anglicaniaid Cymraeg a fu'n addoli mewn pum eglwys, gan gynnwys St Benet, Paul's Wharf, a Dewi Sant, Paddington Green.
Rhwydwaith
Ceid yma rwydwaith gref o gapeli ac eglwysi a fu'n noddi a hybu Cymreictod yn Llundain dros y canrifoedd. Mae'r stori yn un arbennig o ddiddorol a phwysig.
Nid oes modd i ni fesur cyfraniad David Lloyd George, T. E. Ellis, Henry Richard, Syr Hugh Owen, Syr Vincent Evans, Syr Howell J. Williams, James Griffiths ac eraill heb i ni ddeall byd y capeli Cymraeg yn ei gyfanrwydd.
Un o bleserau mawr y Llundeiniwr yw canfod pethau newydd ar ei deithiau trwy'r ddinas. Ewch am dro, er enghraifft, ar hyd Fleet Street, hen diriogaeth y papurau newydd, ac oedwch am funud ger safle Temple Bar, un o'r prif ffyrdd i mewn i Ddinas Llundain.
Fe welwch fanc annibynnol hynaf Lundain, C. Hoare & Co. (sefydlwyd 1672), ac ar draws y stryd brysur fe welwch un o eglwysi hynotaf Llundain, sef St Dunstan-in-the-West. Bu'r safle hwn yn gyrchfan i Gristnogion ers mil o flynyddoedd. Mae i'r eglwys hon gysylltiad arwyddocaol iawn â Chymry Llundain, un y gellir ei datgelu am y tro cyntaf.
Y Bregeth Gymraeg Gyntaf
Un o'r cwestiynau mwyaf anodd ei drin ynghylch hanes Cymry Llundain yw hwn: pa bryd y traddodwyd y bregeth Gymraeg gyntaf yn Llundain? Byddai cael ateb clir a diamwys yn taflu goleuni newydd ar stori'r Cymry yn y ddinas.
Gwyddom eisioes bod pregeth Gymraeg wedi ei thraddodi yn 1714 (neu 1715 yn ôl y calendr modern) yn Eglwys St Paul's, Covent Garden, ond rhan o draddodiad blynyddol (Gŵyl Ddewi) oedd y bregeth honno.
Beth am wasanaethau rheolaidd? Pa bryd y cychwynwyd darparu gwasanaethau wythnosol yn Gymraeg yn Llundain?
Ymhell cyn agor y capel anghydffurfiol Cymraeg cyntaf yn y ddinas (yn Wilderness Row, ger y Charterhouse, tua 1785) cynhelid gwasanaethau Cymraeg yn gyson yn St Dunstan-in-the-West. Cefais hyd i gyfeiriadau newydd at wasanaethau Cymraeg yn yr eglwys honno yn ystod 1720 a 1721. Ficer o Gymro, Mr Phillips o Poplar, oedd y pregethwr dan sylw.
Treftadaeth
Cyfeiriaf at y darganfyddiad am St Dunstan-in-the-West - a nifer o ddarganfyddiadau diddorol eraill - yn fy llyfr newydd 'City Mission'. Treuliais bum mlynedd yn twrio, chwilota ac ymchwilio. Bu'r cyfan yn brofiad arbennig o gyfoethog, er i mi gael fy siomi gan ddifaterwch a diffyg gofal am ddogfennau a ffeithiau pwysig.
Cyhoeddir nifer o luniau trawiadol yn y gyfrol am y tro cyntaf: mawr obeithiaf y bydd y cyfuniad o naratif a chynnwys gweledol yn destun boddhad. Y peth pwysicaf i mi yw bod cenhedlaeth newydd yn ymddiddori yn eu treftadaeth, ac yn sylweddoli mor fentrus, mor ddewr ac mor selog oedd y sawl a gododd ein capeli yn ninasoedd mawr Lloegr.
Er i nifer y capeli a'r eglwysi leihau'n sylweddol, ac er i natur cymdeithas newid yn aruthrol dros yr hanner canrif a aeth heibio, ry'n ni yma o hyd.
Dyma i chi atgofion rhai o ddarllenwyr Cymru Fyw am gapeli Cymraeg Llundain. Oes ganddoch chi atgofion i'w rhannu? Cysylltwch gyda cymrufyw@bbc.co.uk
Eirwen Roberts, Y Tyllgoed, Caerdydd: "Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymfudodd fy nhaid, Ellis Roberts, Cymro Cymraeg o Drefor, Llŷn, i gymeryd swydd prifathro Ysgol Redriff Road, Bermondsey. Ymunodd a chapel Cymraeg Lewisham, ac fe wasanaethoedd fel Ysgrifenydd yno tan ei farwolaeth ym 1939.
Ganwyd dri o blant iddo fe a'i wraig Jane ( o Fangor) yn Llundain, i gyd yn Gymry Cymraeg.
Cyflawnwyd y swydd fel Ysgrifenydd Capel Cymraeg Lewisham gan ei fab, Ellis Roberts Jr, Cymro Cymraeg a anwyd yn Llundain, tan 1962.
Priododd Ellis Roberts Jr a Sally (o Abergwili) a ganwyd tri o blant iddynt yn Llundain, a chafodd rhein eu dwyn i fyny yn Gymry Cymraeg yn dal i fynychu capel Cymraeg Lewisham.
Roedd y plant hyn, sef sef fy mrawd Alun, fy chwaer Rhian a minnau yn cynrychioli'r drydedd genhedlaeth o deulu o gymry cymraeg alltud yn mynychu Capel Cymraeg, sef Capel Lewisham.
Credaf bod y dilyniant hwn o dair cenhedlaeth yn unigryw, ond fallai fod hyn yn anghywir."
Rhys Lloyd, Treganna, Caerdydd: "Ges i a'm chwiorydd ein geni a magu yn Llundain ac aethom i gapel Lewisham. Roedd fy nhaid, y Parch. Arthur Tudno Williams, yn weinidog ar y capel yn ystod y 50au a'r 60au, a ddaru'm rhieni gyfarfod - a phriodi - yno. Roedd fy nhad, a'i dad yntau, yn flaenoriaid yno hefyd (symododd y teulu i Lundain cyn y rhyfel). Mae fy nhad yn dal i gynghori'r Henaduriaeth ynglyn â dyfodol hen gapeli Llundain.
Gadawais i Llundain yn 1985 pan es i Brifysgol Caerdydd. Symudodd Mam a Dad i Dyndyrn ger Cas-Gwent yn 2010, y tro cyntaf iddyn nhw fyw yng Nghymru ers eu plentyntod.
Mae fy chwiorydd yn dal i fyw a gweithio yn Llundain. Caerdydd a Chymru ydi fy nghartref bellach ond mae gen i lu o atgofion melys o'm amser yn Llundain a Lewisham."
Bydd Huw Edwards yn trafod capeli Llundain ar raglen Gari Wyn, Ddydd Llun am 12:03 ar BBC Radio Cymru