Pobol y Cwm yn dathlu'r deugain

  • Cyhoeddwyd
Pobol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Cast presennol Pobol y Cwm

Mae opera sebon BBC Cymru, Pobol y Cwm, yn dathlu ei ben-blwydd yn 40.

Ers 16 Hydref 1974 mae'r gyfres wedi adrodd hanes trigolion Cwmderi, pentref dychmygol yng ngorllewin Cymru.

Fel rhan o ddathliadau'r garreg filltir mae rhai wynebau cyfarwydd wedi dychwelid ar gyfer pennod arbennig nos Iau.

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies, ei fod yn falch iawn o'r rhaglen.

"Ers y cychwyn cyntaf, mae Pobol y Cwm wedi bod yn rhan annatod o deledu Cymraeg, ac yn gyson y rhaglen fwya' boblogaidd ar S4C yn yr ystod yr wythnos.," meddai.

"Mae Pobol y Cwm yn gynhyrchiad manwl a chymhleth gan saethu tua 18 o olygfeydd bob dydd - tipyn o gamp.

"Mae'r gyfres wedi symud yn hyderus gyda'r oes - ac erioed wedi bod ofn mynd i'r afael â'r straeon anodd. Ry'n ni'n falch iawn bod y gyfres yn cyrraedd ei phen-blwydd yn ddeugain."

'Pwysig tu hwnt'

Disgrifiad o’r llun,

Yn y Cwm y dechreuodd Ioan Gruffudd, sydd bellach yn seren Hollywood, ei yrfa

Cafodd Pobol y Cwm ei ddarlledu ar sianel deledu BBC Cymru cyn dechreuad S4C ym 1982. Am gyfnod gafodd y gyfres gynulleidfa ledled y DU wrth iddo ymddangos gydag isdeitlau ar BBC Two, ac ym 1991 fe wyliodd trigolion yr Iseldiroedd helyntion Cwmderi hefyd.

Mae'r rhaglen yn cyflogi tua 80 o gast a chriw sydd wedi eu lleoli yn stiwdios y BBC ym Mhorth y Rhath. Er i'r gyfres ymddangos bum gwaith yr wythnos ar hyn o bryd, fe fydd nifer y penodau wythnosol yn disgyn i bedwar yn y flwyddyn newydd oherwydd toriadau cyllid S4C.

Yn ôl y cyfarwyddwr teledu Terry Dyddgen Jones, sydd wedi gweithio ar Pobol y Cwm yn ogystal â chyfresi eraill fel Coronation Street ac EastEnders, mae Pobol y Cwm yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru.

"Mae'n adlewyrchu yn gymdeithasol be sydd wedi digwydd yng Nghymru, yn hanesyddol, ac yn ieithyddol hefyd oherwydd dwi'n credu bod Pobol y Cwm yn bwysig tu hwnt gan ei bod wedi gwarchod yr iaith am yr holl flynyddoedd yma," meddai.

"Dwi'n credu pan bod termau yn cael eu bathu, pan ry'n ni i gyd yn dod yn gyfarwydd a defnyddio nhw, chi'n clywed nhw ar Pobol y Cwm. Os ydi cymeriadau Pobol y Cwm yn eu defnyddio nhw, mae'n iawn i ni gyd eu defnyddio nhw!"

Fel rhan o benodau'r ddrama'r wythnos hon, mae wedi dod i'r amlwg fod un o gymeriadau mwyaf poblogaidd yn hanes y gyfres yn paratoi i adael Cwmderi am byth.

Ffarwel Meic

Disgrifiad o’r llun,

Meic Pierce gyda Jacob Ellis nôl yn 1994

Nos Fawrth gyhoeddodd Meic Pierce ei fod yn dioddef o ganser. Mae Gareth Lewis, sy'n chwarae rhan Meic, wedi penderfynu ymddeol o'r gyfres ar ôl 40 mlynedd ar y sgrin ei hun.

"O'n i'n teimlo y bydda fo'n beth da i'r gynulleidfa, i mi, ac i bawb arall, petawn i'n ymddeol ar ôl 40 mlynedd yn y gyfres yma.

"Nes i ymuno efo'r cast ym mis Ionawr 1975, ac rwy'n gobeithio ymddeol o gwmpas yr un amser yn 2015," meddai.

Fe fydd BAFTA Cymru yn cynnal dangosiad arbennig o bennod pen-blwydd Pobol y Cwm ym Mhorth y Rhath heno i nodi cyfraniad y gyfres i'r diwydiant teledu.

Hefyd gan y BBC