Bienvenida a Cwmderi
- Cyhoeddwyd
Mae cymeriad newydd i'w gweld ar S4C y dyddiau yma, wrth i Pobol y Cwm groesawu Gabriela Gonzalez i bentref Cwmderi.
Elizabeth Fernandez yw'r actores sy'n chwarae'r cymeriad, ac fe daw o'r Gaiman yn nhalaith Chubut, Patagonia. Cafodd Cymru Fyw gyfle i siarad efo hi am ei chefndir a'i phrofiadau wrth ymgartrefu yng Nghymru.
Lle a phryd nes di ddechrau dysgu Cymraeg?
Dechreuais ddysgu Cymraeg yn Y Gaiman ym Mhatagonia pan oeddwn yn bymtheg oed. Roedd bachgen o'r Gaiman, Gabro, (Gabriel Restucha) wedi bod draw yng Nghymru yn dysgu Cymraeg. Pan ddaeth yn ôl i Batagonia fe ddechreuodd roi ddosbarthiadau Cymraeg i bobl ifanc yn y pentref.
Oes gen ti gysylltiadau teuluol gyda Chymru?
Nagoes, does gen i ddim cysylltiadau teuluol â Chymru, ond wrth gwrs roeddwn i'n ymwybodol o Gymru wrth dyfu fyny.
Oeddet ti wedi clywed am gyfres Pobol Y Cwm pan oeddet yn byw ym Mhatagonia?
Roedd fy athro, Gabro, wastad yn siarad am Bobol y Cwm, ac roedd o eisiau dangos y gyfres i ni, ond dwi ddim yn cofio fo'n gwneud. Ond fe gafodd afael ar ddeialog o'r rhaglen ac roedd yn gallu trafod y peth yn y dosbarth gyda ni er mwyn dangos sut oedd pobl yn siarad yng Nghymru.
Gan mod i'n byw mwy neu lai ochr arall y byd, roedd yn help i mi fel rhywun a oedd eisiau bod yn actores i wybod bod rhaglen ddrama arbennig yn y Gymraeg. Byswn i byth wedi meddwl yr adeg yna y byddwn ryw ddydd yn actio yn y gyfres.
Sut wnes di ddechrau actio?
Roeddwn eisiau bod yn actores ers yn 6 oed, ac yn cymryd rhan mewn cynyrchiadau yn yr ysgol. Ond roeddwn i'n fach iawn fel plentyn a rhywsut ddim yn cael y cyfleoedd, felly fe ddechreuais i ddawnsio.
Er mod i'n cael dosbarthiadau actio yn Nhrelew, dawnsio oedd yn cymryd fy sylw yn bennaf am flynyddoedd ac fe gefais radd mewn dawnsio a dechreuais ddysgu dawnsio Sbaenaidd i blant.
Pan roedd yn bosib roeddwn yn parhau i gael fy hyfforddi fel actores ym Mhatagonia. Roedd yn anodd iawn gan mai actio amatur oedd y cyfleoedd yno, mae'r safon yn wych yno ac mae'r sefyllfa yn gwella i bobl allu gwneud bywoliaeth o actio.
Wedi i mi ymweld â Chymru y tro cyntaf, fe ddychwelais i Buenos Aires yn hytrach na Phatagonia a phenderfynais ganolbwyntio yn llwyr ar actio.
Mae'n eithaf anodd gwneud bywoliaeth fel actor, lle bynnag wyt ti'n byw. Roedd o'n gam mawr i mi pan es i fyw yn Buenos Aires a dechrau perfformio ar y llwyfan, ond ches i ddim cyfle i actio ar y teledu.
Sut wnes di gael y rhan ar Pobol y Cwm?
Roeddwn yn cael cyfnodau prysur iawn a chyfnodau tawel wrth actio yn Buenos Aires, ac yn y diwedd fe benderfynais fynd nôl i Batagonia i fyw. Nes i ddysgu drama i bobl ifanc ym Mhatagonia mewn ysgol Gymraeg.
Yn 2011 fe ddes i Gymru, ac fe anfonais e-bost at lawer o gynhyrchwyr Cymraeg, gan obeithio y gallwn weithio fel actores yma yn y dyfodol, ond ches i ddim ateb ganddynt.
Y tro yma pan ddes i Gymru fe brynais docyn un ffordd, oherwydd roeddwn i eisiau aros yma. Roeddwn yn parhau i wneud yr un peth - cysylltu gyda chynhyrchwyr Cymraeg yn y gogledd ac yng Nghaerdydd, ac ar ôl misoedd fe gysylltodd cynhyrchydd o Bobol Y Cwm gyda mi i ofyn a fuasai gen i ddiddordeb cael fy nghastio ar gyfer cymeriad yn y rhaglen.
Beth ydi dy argraffiadau di o Gymru?
Ddes i yma gyntaf yn 2002, ac o'n i wrth fy modd, yn meddwl bod y lle yn hollol wahanol i adref. O'n i'n meddwl mai efallai dyna oedd fy unig siawns i ddod i Gymru, ond fe ddychwelais i'n ôl yn 2007 ac yn 2011.
Yna fe ges i'r teimlad mai dyma yw fy lle i. Mae'n rhyfedd, achos dwi'n gwybod mod i ddim o dras Cymreig, ond dwi'n teimlo'n hanner Cymraes mewn ffordd - dwi wrth fy modd efo'r diwylliant yma.
Beth wyt ti'n ei feddwl o acenion dy gyd-actorion ar Bobol Y Cwm? Ydi hi'n anodd eu deall nhw?
I ddweud y gwir dydw i ddim yn ei ffeindio yn anodd eu deall nhw oherwydd ar ôl tipyn o amser mi ddes i arfer gyda'r gwahanol acenion.
Roedd fy athrawon Cymraeg i'n gymysgedd o bobl o'r gogledd ac o'r de, ac roeddwn yn byw yng ngogledd Cymru am gyfnod, felly dwi wedi arfer â gwahanol acenion Cymru bellach. Er, dwi ddim yn siŵr beth mae'r actorion eraill yn ei feddwl o f'acen i!
I weld sut mae Gabriela Gonzalez yn setlo yng Nghwmderi ewch i BBC IPlayer.