Cofio 'Sbardun'

  • Cyhoeddwyd
Alun 'Sbardun' HuwsFfynhonnell y llun, Emyr Young
Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau lu wedi eu rhoi i Alun 'Sbardun' Huws

Mae rhai o gerddorion amlycaf Cymru wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r cerddor a'r cyfansoddwr Alun 'Sbardun' Huws fu farw ar 15 Rhagfyr.

Roedd o'n aelod gwreiddiol o'r Tebot Piws ac roedd o wedi chwarae gyda nifer o grwpiau eraill y 70au fel Ac Eraill a Mynediad am Ddim.

Roedd 'Sbardun' hefyd wedi cydweithio ar sawl prosiect gyda Bryn Fôn. Dywedodd y canwr wrth BBC Cymru Fyw:

"Ges i sioc o glywed y newydd. Roedd o wedi cael trafferth efo'i iechyd ers tro, ond ar ôl iddo fo symud i'r Barri, roedd gwynt y môr a'r awyr iach i weld wedi g'neud gwahaniaeth ac roedd o mewn hwyliau da.

"Ro'n i ar ganol prosiect newydd efo fo ac wedi bod yn trafod caneuon ar e-bost cyn iddo fynd i'r ysbyty ac ro'dd o mor frwdfrydig.

"Mi dde's i'w nabod yn dda yn y saithdegau pan oedden ni'n dau yn gweithio yn y byd teledu. Roedden ni'n trafod ein cerddoriaeth a chael y cyfle i gyd-sgwennu ambell i gân.

"Mi nes i gynhyrchu albym cynta'r Tebot Piws (yn 2008), cyn hynny dim ond EPs yr oeddan nhw wedi eu cyhoeddi, felly roedd hi'n dipyn o fraint, ac yn dipyn o gamp i gael y pedwar ohonyn nhw at ei gilydd. Ar yr adeg honno roedd iechyd Sbardun yn fregus ond mi ddaeth i fyny i fythynnod Bryn Derwen a chwblhau'r caneuon.

"Mi sgwennodd o nifer o ganeuon cofiadwy. Dwi'n hoff iawn o 'Coedwig ar Dân, dolen allanol'. Mae 'na stori yna ac yn dweud llawer amdanom ni fel pobl mewn ffordd mor syml. Mae pobl 'run fath ble bynnag yn y byd mae nhw.

"Roedd Sbardun yn gymeriad mawr mawr. Er bod Dewi yn gymeriad mor amlwg yn y Tebot Piws, roedd Sbardun yn foi doniol ofnadwy. Roedd ganddo ateb sydyn i bopeth.

"Yn sicr mi fydd ei ganeuon yn cael eu chwarae am flynyddoedd i ddod."

_______________________________________________________________________________________________________________

Roedd Sbardun wedi cydweithio yn agos hefyd gydag Endaf Emlyn dros y blynyddoedd.

Meddai Endaf wrth Cymru Fyw:

"Mae hi'n siom fawr ac rydw i wedi colli ffrind.

"Roedd Sbardun yn gyfansoddwr gonest, twymgalon. Roedd ei gymeriad addfwyn ei hun yn ei ganeuon. Dwi'n credu bod hynny yn egluro pam ein bod ni'n cymryd ato mor barod. Roedd yna ddidwylledd a gwirioneddau mawr yn y ffordd syml yr oedd o'n cyflawni pethau.

"Mae 'Strydoedd Aberstalwm, dolen allanol' yn esiampl berffaith o'r gonestrwydd teimladwy a'r agosatrwydd yna oedd yn rhan ganolog ohono fo.

"Roeddwn i mewn cysylltiad cyson efo fo, ond roeddwn i'n poeni am ei iechyd.

"Roedd o'n ddyn doniol iawn ac mae'r hiwmor yna i'w weld yn glir yng nghaneuon Tebot Piws.

"Mae safon ei waith mor uchel ac mor fytholwyrdd. Mae nhw'n ganeuon sy'n dod o'r galon."

______________________________________________________________________________________________________________

Ar Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru, bu Dewi 'Pws' Morris o'r Tebot Piws yn hel atgofion am ei ffrind:

"Nes i gwrdd â fe am y tro cynta' yn y coleg. Roedd e'n foi unigryw iawn - roedd ganddo hiwmor gwahanol iawn, a llygaid direidus ganddo.

"Roedd e'n 'sgwennu am yr hen amser, fel caneuon gwerin bron. Roedd ganddo steil arbennig iawn.

"Roedd e'n gallu sgwennu am y gorffennol mewn modd unigryw iawn.

"Nid yn unig roedd e'n sgwennu fel bardd, sgwennu'r geiriau, roedd e'n gallu sgwennu'r caneuon i fynd gyda nhw."

"Roedd e wedi gwneud tamed o bopeth - roedd pawb yn ei 'nabod e. Roedd e'n ffotograffydd hefyd - a lluniau ffantastig ganddo."

"Bydd Sbardun yn fyw i ni drwy ei ganeuon a dwi'n gobeitho y bydd yr Eisteddfod neu rywun yn cynnal noson o waith ei ganeuon."

_______________________________________________________________________________________________________________

Ar Taro'r Post ar BBC Radio Cymru bu Tecwyn Ifan yn rhoi teyrnged i'w gyfaill. Roedd y ddau yn gyd-aelodau o Ac Eraill. Roedd gan Alun 'Sbardun' Huws hefyd ran ganolog i'w chwarae yng ngyrfa Tecwyn fel canwr unigol:

"Roedd e'n offerynnwr da i ddechre. Roedd 'da fe batrwm pert wrth bigo'r tanau. Roedd e'n gallu amrywio yn ôl natur y caneuon, yn gallu creu sŵn ymosodol pan oedd angen ac ro'dd e'n gallu bod yn feddal a theimladwy hefyd.

"Wrth weithio ar gân roedd ganddo syniadau da hefyd. Falle bydde'r gân wedi ei chwblhau ond byddai ganddo awgrymiadau am ba offerynnau i'w defnyddio wrth recordio.

"Yn y cefndir oedd e gan amlaf. Ond doedd pobl ddim yn llawn werthfawrogi ei gyfraniad. Doedd pobl ddim yn sylweddoli ei fod yn berson pwysig. Roedd ganddo lais. Do'dd e ddim yn dweud llawer ond pan ro'dd e'n dweud rhywbeth roedd yn rhaid gwrando.

"Roedd e'n gwmnïwr da. Bues i yng Nghernyw a Llydaw 'da fe heb son am deithio i bob cornel o Gymru pan ro'dd e'n cyfeilio i mi"

______________________________________________________________________________________________________________

Mae nifer o gerddorion eraill wedi rhoi teyrngedau i Alun 'Sbardun' Huws ar wefan Twitter:

Dafydd Iwan: "Coffa da am Sbardun, yr enaid hoff a'r dalent fawr, a chofion annwyl at Gwenno".

Brigyn: "Trist iawn clywed ein bod wedi colli ffrind annwyl a thrysor cenedlaethol, Sbardun. Wastad yn bleser bod yn dy gwmni a chael canu dy ganeuon."

Peredur ap Gwynedd (Pendulum): "Trist iawn i glywed fod fy nghefnder Sbardun wedi ein gadael ni. Cysga'n dawel."

Rhys Mwyn: "Sbardun / Tebot Piws / pwysig / clasuron."

Gwyneth Glyn: "Tristwch mawr o glywed am Sbardun annwyl. Dyn oedd bob amser yn annog creadigrwydd y rhai oedd o'i gwmpas."

Gwenan Gibbard: "Wedi siarad am y tro 1af erioed efo Sbardun union wythnos a hanner yn ôl. Dyn hynaws a pharod iawn ei anogaeth. Colled fawr."

Lleuwen Steffan: "Diolch Sbardun. Boed i'r nefoedd fod yn llawn gitars."

Cowbois Rhos Botwnnog: "Gorffwys mewn hedd, Sbardun."

David Wrench: "I'm really saddened to hear of the passing of Alun Sbardun. A lovely kind man who I had the pleasure of recording a Tebot Piws album with."