Tŵr Crempog Caws, Tomato a Ham

  • Cyhoeddwyd
Gwaith paratoi'r crempogau

Tŵr Crempog Caws, Tomato a Ham

Dyma rysáit crempogau ar gyfer dydd Mawrth Ynyd gan y cogydd Gareth Richards.

"Dyma ffordd wahanol o goginio crempog ar gyfer Dydd Mawrth Ynyd, gan greu tŵr sydd yn ffurfio rhywbeth tebyg i lasanga sydd yn edrych ac yn blasu'n hyfryd."

Cynhwysion

•50g o flawd plaen

•2 ŵy

•3/4 peint o laeth

•1 llwy de o olew

•350g sbigoglys (spinach)

•150g ham wedi'i dorri'n giwbiau

•3 llwy de o bâst tomato (sun dried tomato paste)

•1 jar o saws tomato

•4 tomato wedi'u torri

•150g o gaws cheddar

•ambell i olewydd du

Dull

Tywalltwch y blawd i fewn i fowlen, ynghyd â'r wyau a llaeth er mwyn creu cytew.

Cynheswch badell grempog ac ychwanegwch ychydig o olew. Rhowch rywfaint o'r cytew yn y badell a throwch ef drosodd pan fydd swigod yn ymddangos. Gwnewch chwech arall.

Rhowch sbigoglys i mewn i'r badell ac arllwys dŵr berwedig drosto a'i goginio am 3-4 munud. Gadewch i'r dŵr ddod ohono a gwasgwch yr ysbigoglys yn sych.

Rhowch y popty ymlaen ar 180°C / Nwy 4.

Rhowch y crempogau ar ben ei gilydd ar blât gan roi pâst tomato, saws tomato, sbigoglys, ham, caws a thomatos rhwng pob haen.

Ychwanegwch halen a pupur fel a hoffech.

Gwnewch y broses sawl gwaith, yn ddibynol ar faint sy'n bwyta, gan roi olewydd a chaws arno fel y dymunwch.

Coginiwch am 25-30 munud. Torrwch gyda chyllell a bwytewch gyda salad.

Byddai unrhyw fath o saws pasta yn gweithio ar gyfer y pryd hwn - gallwch hefyd gynnwys pupur wedi ei dorri, winwns, cennin neu gyw iâr.

Beth am ychwanegu perlysiau i'r cytew neu courgette wedi'i gratio? Mae'n ffordd glyfar o gael y plant i fwyta mwy o lysiau!

Disgrifiad o’r llun,

Gallwch ychwanegu unrhyw gynhwysion eraill at y tŵr hefyd