Super Furries yn ail dyfu'r Mwng
- Cyhoeddwyd
Mi fydd y Super Furry Animals yn dod at ei gilydd i chwarae gigs byw am y tro cyntaf ers chwe blynedd, gan gynnwys dau berfformiad yng Nghymru.
Mi fyddan nhw hefyd yn ail-ryddhau eu halbwn Gymraeg 'Mwng' i nodi pymtheg mlynedd ers ei ryddhau am y tro cyntaf.
Ar ôl gwneud y cyhoeddiad ddydd Gwener 27 Chwefror, roedd y band yn perfformio mewn gig elusennol yn Llundain i godi arian tuag at driniaeth Howard Marks. Mae'r cyn-smyglwr cyffuriau a drodd i fod yn awdur a siaradwr cyhoeddus wedi cyhoeddi fod ganddo ganser.
Ar raglen Huw Stephens ar C2, Nos Lun 2 Mawrth mae cyfweliad gyda Gruff Rhys a Huw Bunford o'r band a recordiwyd ar y noson, felly beth mae Gruff yn ei feddwl am yr holl gyffro?
Gruff: "Da ni'n dathlu ail-ryddhau record hir... mae'n ddigri ofnadwy yn dydi? Mae jest fel rhyddhau record newydd, ond 'dio ddim yn newydd. Ydy hyn yn mynd i ddigwydd efo pob record?"
Pa broblemau annisgwyl ydych chi wedi dod ar eu traws?
Bunf: "Mae'r dechnoleg wedi newid ac mae rhai caneuon allwn ni ddim eu chwarae achos dyw'r feddalwedd ddim yn bodoli rhagor. Os fyddwn ni'n treial ei roi e mewn i chwarae bydd y peiriant ddim yn gallu ei ddarllen e!"
Gruff: "Roedd graffeg gwreiddiol y clawr ar floppy disk a doedd o jest ddim yn gweithio rhagor... dydi'r feddalwedd ddim yn bodoli i ail-greu'r clawr. Mae Mark James, wnaeth gysodi'r clawr gwreiddiol, wedi gorfod ei ail 'neud o."
Ond pam ail ryddhau 'Mwng'?
Gruff: "Da ni wedi bod yn trafod ail-ryddhau 'Mwng' ers rhyw dair blynedd, ond roedd pawb yn brysur yn rhyddhau ac yn gweithio ar eu stwff eu hun, ond rwan mae'r amser yn iawn, a 'da ni dal i gyd yn fyw.
"Rheswm arall yw taw 'Mwng' yw'r unig albwm 'da ni'n berchen arno fo. 'Naethon ni'i ryddau o ar ein label ein hunain oedd yn cael ei weinyddu gan Ankst mwy neu lai 15 mlynedd yn ôl a mae o fel o rhyw oes arall. Oes cyn-ddigidol a mae o allan o brint a jest ddim ar gael."
Gig Howard Marks
Roedd yr adolygydd Owain Gruffudd yn gig Howard Marks nos Wener. Beth oedd e'n ei feddwl o berfformiad cyhoeddus cynta'r band mewn chwe mlynedd?
"Uchafbwynt cerddorol y noson, wrth gwrs, oedd slot aelodau'r Super Furry Animals. Roedd eu set wedi ei rannu yn bedair rhan, i adlewyrchu'r prosiectau unigol mae aelodau'r band wedi eu dilyn ers i'r SFA roi'r gorau i berfformio 'dros dro'.
"Yn gyntaf, roedd set gan The Earth, prosiect Dafydd Ieuan, drymiwr y SFA. Mewn gigs blaenorol, dwi wedi mwynhau cerddoriaeth y band. Ond roedd y system sain yn golygu fod y bas a'r llais yn boddi drymiau Daf, yn ogystal â gitar Mark Roberts (Y Cyrff, Catatonia). Cafwyd setiau byr wedyn gan aelodau eraill y Furries - Cian Ciarán, Bunf a Gruff Rhys, a phawb yn meddwl mai dyna fyddai diwedd eu cyfraniad.
"Ond roedd yn gyfle rhy dda i'w golli, a chafodd pawb y pleser o weld y Super Furries yn dod nôl ar y llwyfan gyda'i gilydd er mwyn chwarae un gân. Roedd y gynulleidfa i gyd yn canu 'Fire in My Heart' gair-am-air gyda'r band, ac roedd yn uchafbwynt wnaeth fy mhlesio i o leiaf."
At Gruff a Bunf i orffen. Beth fedrwn ni ei ddisgwyl yn y daith fer sydd wedi'i threfnu i gydfynd ag ail-lansio 'Mwng'?
Gruff: "Yr annisgwyl. Fyddai hi'n lot rhy amlwg i jest chwarae caneuon 'Mwng'."
Bunf: "Ddim yn siŵr beth fyddwn ni'n ei wneud. Mae'n siŵr byddwn ni'n ymarfer. 'Ni ddim mor wallgo' a mynd yn syth ar lwyfan heb ymarfer. Ond mae'n bosib fyddwn ni'n troi fyny a fyddwch chi'n meddwl bod ni heb!"
Gruff: "Roedd 'Mwng' yn eithaf anghyffredin mewn ffordd, oedd hi'n lot mwy amrwd a mae 'di cael ei recordio'n eithaf byw beth bynnag, felly o safbwynt chwarae'r caneuon yn fyw, mae'n gymharol hawdd o'i gymharu â rhai o'n recordiau eraill ni oedd yn fwy o arbrawf mewn stiwdio."
Bydd y daith yma'n eithaf gwahanol i pan gafodd 'Mwng' ei ryddhau gyntaf felly?
Gruff: "Yn wreiddiol rhyddhawyd 'Mwng' yn yr Unol Daleithiau a dyna lle aethon ni ar daith i'w hyrwyddo hefyd. Doedden ni ddim eisiau gwneud y peth amlwg a rhyddhau record Gymraeg yng Nghymru. Wnaeth hi gyrraedd rhif 11 yn y siartiau [albwm] ac felly mae 'Mwng' wedi mynd â'r Gymraeg i diroedd hollol wahanol... sy'n beth da."
Mae'r cyfweliad llawn i'w glywed ar raglen Huw Stephens ar C2, Radio Cymru am 1900 ar nos Lun 2 Mawrth.