'Profiad yn bwysicach na chymwysterau' i gyflogwyr
- Cyhoeddwyd
Mae profiad gwaith yn fwy gwerthfawr na chymwysterau pan mae cwmnïau yn ceisio recriwtio gweithwyr newydd, yn ôl arolwg o 2,000 o gyflogwyr yng Nghymru.
Dywedodd 63% bod profiad yn arwyddocaol neu yn allweddol, ond roedd llai na 40% yn cynnig cyfleoedd i bobl gael profiad gwaith.
Mae galwadau i gwmnïau gynnig mwy o gyfleoedd yn sgil yr arolwg.
Yn ôl Comisiynydd Gwaith a Sgiliau Cymru, byddai cynnig cyfleoedd yn helpu i gwmnïau ddod o hyd i'r gweithwyr gorau.
Dywedodd Scott Waddington: "Yn amlwg, mae cyflogwyr yn teimlo'n fwy cyfforddus yn cyflogi'r rheiny sydd â pheth brofiad o'r diwydiant neu fath o swydd felly byddai cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc mewn addysg yn helpu i baru pobl gyda'r swyddi cywir."
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, fel rhan o ymchwil ehangach yn cynnwys 18,000 o gyflogwyr y DU.