'Anhrefn' adeiladu canolfan Pontio
- Cyhoeddwyd
Mae adeiladwr ar safle canolfan gelfyddydau ac arloesi newydd £49m yng Ngwynedd wedi disgrifio'r cynllun fel un sydd yn llawn "anhrefn".
Roedd canolfan Pontio ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi ei ariannu yn sylweddol gan arian cyhoeddus, i fod i agor ym mis Medi 2014.
Mae'r gweithiwr yn honni fod camgymeriadau adeiladu a difrod dŵr sylweddol yn gyfrifol am yr oedi ac am gynyddu costau'r cynllun.
Dywed y cwmni datblygu Galliford Try fod y sialensiau o adeiladu'r cynllun yn rhai cyffredin a'u bod yn cael eu hateb er mwyn cyflwyno adeilad o "ansawdd uchel".
Bydd Pontio yn cynnwys theatr, sinema a chanolfan greadigol fydd yn gysylltiedig â'r brifysgol.
Lluniau
Mae lluniau o du mewn i'r adeilad sydd wedi dod i law rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru yn dangos nifer o broblemau gyda'r gwaith adeiladu.
Mae lloriau newydd eu gosod wedi gorfod cael eu codi, gyda waliau newydd a rhannau o'r to mewnol wedi eu torri o achos difrod dŵr sylweddol.
Mae hyn yn cynnwys difrod i sinema newydd y ganolfan, yn ogystal â llawr gwaelod y ganolfan a grisiau.
Dywedodd y gweithiwr wrth BBC Cymru: "Rydych yn cael eich anfon i wneud rhywbeth yn y bore, ac yna hanner ffordd drwy'r dydd rydych yn cael eich tynnu i wneud rhywbeth arall.
"Felly mae bordiau a thoeau yn cael eu codi heb i neb ofyn i'r trydanwyr neu'r plymwyr os ydyn nhw wedi gorffen yn y to. Mae'n rhaid iddyn nhw wedyn dorri tyllau er mwyn dod a cheblau drwyddyn nhw."
Tu mewn i Pontio
Dywedodd y gweithiwr fod teils yn chwyddo wedi i ddŵr fynd i mewn iddyn nhw.
"Mae nhw wedi cael eu hail-osod nifer o weithiau o achos y dŵr", meddai.
"Mae nhw'n dioddef effaith dŵr, ac yna mae plastrwyr yn cymysgu plaster ar ben hyn ac yn arllwys y dŵr. Mae'n anhrefn, a bod yn onest."
Mae hefyd yn disgrifio'r brys i geisio cwblhau'r adeilad ym mis Medi y llynedd: "Roedd na gymaint o frys fel y cafodd gweddill yr adeilad ei adael. Dwi'n meddwl fod na gymaint o frys fel bod llawer o gamgymeriadau wedi eu gwneud."
Ychwanegodd: "Efallai y byddan nhw'n agor ym mis Mehefin. Ond fe fydd rhai peintwyr yn dal yno hyd at fis Medi o leiaf".
Y datblygwr
Dywedodd llefarydd ar ran y datblygwr, cwmni Galliford Try, fod nifer o sialensiau cymleth yn codi gyda phob datblygiad sydd mor gymleth ag un Pontio, a bod y tim adeiladu wedi wynebu "nifer o sialensiau drwy gydol y rhaglen adeiladu".
Ychwanegodd: "Nid oedd unrhyw un o'r materion hyn yn anghyffredin mewn proses adeiladu o'r fath ac mae pob un o'r sialensau hyn wedi eu hateb, gan sicrhau y bydd adeilad o wneuthuriad safonol yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd y cynllun.
"Fel cwmni mae Galliford Try yn falch o'i enw da wrth gynhyrchu adeiladau cyhoeddus arobryn drwy'r DU.
"Rydym wedi ein hymrwymo i gydweithio gyda Phrifysgol Bangor a'r holl rhanddeiliaid er mwyn cyrraedd diweddglo llwyddianus i'r cynllun pwysig hwn mor fuan ag sydd yn ymarferol bosib."
Ymatebion eraill
Dywedodd Prifysgol Bangor ei fod yn parhau i weithio gyda Galliford Try er mwyn sicrhau eu bod yn cwblhau'r adeilad i "safon uchel mor sydyn ag sydd yn bosib."
Ychwanegodd y llefarydd fod "deialog sylweddol iawn wedi bod" gan ddweud fod "Galliford Try wedi ein sicrhau y bydd yr adeilad yn cael ei gwblhau i ansawdd uchel iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr adeilad yn agored."
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru ar hyn o bryd yn dal £1m o arian cyfalaf sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y cynllun yn ôl - ac nid yw wedi dosbarthu unrhyw arian cyfalaf ers mis Gorffennaf y llynedd.
Dywedodd llefarydd: "Er mai cyfrannwr bychan ydym ni i gostau llawn y cynllun, rydym wedi bod yn bryderus iawn am yr oedi i'r cynllun pwysig hwn.
"Rydym wedi anog Prifysgol Bangor i weithio'n agos gyda chontractwyr y cynllun i ddod a materion sydd heb eu cwblhau i ben yn fuan. Mae'r arian sydd ar ôl i'r cynllun wedi eu dal yn ôl nes bydd hyn yn digwydd.
"Mae hwn yn gynllun cymleth a dyrys ond rydym yn argyhoeddedig y bydd yr adeilad terfynol yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywyd diwyllianol gogledd Cymru".
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nid ydym am weld yr oedi presenol yn effeithio ar fanteision tymor hir y cynllun i bobl gogledd Cymru ac fe fyddwn yn parhau i gefnogi Prifysgol Bangor fel y gall y cynllun gael ei gwblhau mor fuan â phosib".