Cyfle i weld cynlluniau'r Ysgwrn
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfle i'r cyhoedd weld cynlluniau i adfer ac arddangos cartref Hedd Wyn yn ardal Trawsfynydd ddydd Sadwrn.
Bydd yr Ysgwrn yn cael ei addasu yn ganolfan treftadaeth, ac ymhlith y trysorau bydd Cadair Ddu Eisteddfod Penbedw 1917.
Bu farw Hedd Wyn - Ellis Humphrey Evans - yn Passchendaele chwe wythnos cyn y brifwyl.
Dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod Yr Ysgwrn wedi ysgogi peth o farddoniaeth gorau'r bardd.
Bydd y gwaith o adfer yr adeilad yn dechrau yn yr haf.
Mae'r Awdurdod wedi derbyn grant o £2.8 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn diogelu'r cartref a'r adeiladau cyfagos oedd yn eiddo i deulu Hedd Wyn
Dechreuodd y frwydr i achub Yr Ysgwrn, adeilad Rhestredig Gradd II, ar ôl i nai'r bardd leisio pryderon yn 2009.
Dywedodd Sian Griffiths, rheolwr y prosiect: "Beth sy'n hynod bwysig ydi ein bod ni'n cadw awyrgylch Yr Ysgwrn.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gerald Williams, nai Hedd Wyn, a'i deulu, am y gofal arbennig maen nhw wedi'i roi i'r cartref dros yr holl flynyddoedd. Ein cyfrifoldeb ni nawr yw parhau a'r un gofal, a chadw'r drws ar agor i genedlaethau'r dyfodol.