Nôl ar y llwyfan
- Cyhoeddwyd

Golygfa o'r cynhyrchiad 'Tŷ Dol' yn seiliedig ar ddrama Henrik Ibsen, 1975
Mae 'na 40 mlynedd ers i Gwmni Theatr Cymru symud i gartref newydd sbon danlli - Theatr Gwynedd ym Mangor.
Mae Cofio ar BBC Radio Cymru eisioes wedi hel atgofion am rai o gynhyrchiadau'r gorffennol. Faint ydych chi'n ei gofio am y sioeau a'r dramâu gafodd eu llwyfannu dros y blynyddoedd? Dyma ambell lun i brocio'r cof.
Diolch i Archifau Gwynedd, dolen allanol am rannu'r lluniau gyda Cymru Fyw.

'Ifas y Tryc', Tachwedd 1975

Llun cyhoeddusrwydd o sioe lwyfan 'Teliffant', y rhaglen deledu boblogaidd i blant, 1977

'Saer Doliau', Hydref 1977

Cyfarfod cynhyrchu 'Y Tŵr', Hydref 1978, gyda John Ogwen yn gwrando'n astud ar gyfarwyddiadau'r awdur, Gwenlyn Parry

John Ogwen a Maureen Rhys, mewn golygfa o 'Y Tŵr' yn 1978

Llun cyhoeddusrwydd ar gyfer 'Cofiant y Cymro Olaf' yn 1979

Llwyfan llawn ar gyfer 'Cofiant y Cymro Olaf' yn 1979

'Oedipus Frenin', Hydref 1980

John Ogwen gyda Wyn Bowen Harries, mewn golygfa o 'Un Nos Ola Leuad' o Chwefror 1981

Sbort a sbri ar y llwyfan yn ystod drama 'Pont Robat' yn 1981

Golygfa ddramatig yn ystod y sioe 'Syrcas' o Hydref 1981