'Noson echrydus' i'r Democratiaid Rhyddfrydol

  • Cyhoeddwyd
Nick CleggFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Nick Clegg i ddal ei sedd yn Sheffield Hallam, ond fe ymddiswyddodd fel arweinydd fore Gwener

Dim ond un sedd sydd ar ôl gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, gyda Mark Williams yn cadw sedd Ceredigion, y mae wedi ei chynrychioli ers 2005.

Ond fe wnaeth mwyafrif Mr Williams ostwng i 3,000 - roedd yn 8,000 yn 2010.

Collodd Jenny Willott sedd Canol Caerdydd i Lafur, a chollwyd sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed i'r Ceidwadwyr.

Dywedodd Mr Williams wrth y BBC: "Rydym yn ôl lle'r oeddem yn 1992 ... nid ydym yn drydedd blaid, a does fawr o fandad gennym (i ymuno â chlymblaid)."

Mae cyfres o aelodau amlwg o'r Democratiaid Rhyddfrydol - gan gynnwys Vince Cable, Danny Alexander, Charles Kennedy, David Laws, Ed Davey, Simon Hughes, Lynne Featherstone, Norman Baker a Jo Swinson - wedi colli eu seddi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mwyafrif Mark Williams yng Ngheredigion wedi crebachu

Clegg yn ymddiswyddo

Yn sgil canlyniadau siomedig y blaid, cyhoeddodd yr arweinydd Nick Clegg y byddai'n ymddiswyddo ddydd Gwener.

Meddai: "Mae un peth yn gwbl glir - nid yw rhyddfrydiaeth yma, ac ar draws Ewrop, yn llwyddo yn erbyn gwleidyddiaeth wedi'i selio ar ofn.

Ychwanegodd mai hon oedd yr "ergyd fwyaf i'r Democratiaid Rhyddfrydol" ers sefydlu'r blaid, gan fynd ymlaen i ddweud "bod hwn yn gyfnod tywyll" iddyn nhw.

Dim ond un sedd Gymreig sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl yr etholiad, sef Ceredigion, ar ôl i Lafur gipio sedd Canol Caerdydd, a'r Ceidwadwyr yn cipio Brycheiniog a Maesyfed.

Wrth ildio'r awenau fel arweinydd y blaid wedi'r canlyniadau siomedig, dywedodd Nick Clegg: "Mae un peth yn gwbl glir - nid yw rhyddfrydiaeth yma, ac ar draws Ewrop, yn llwyddo yn erbyn gwleidyddiaeth wedi'i selio ar ofn.

Ychwanegodd mai hon oedd yr "ergyd fwyaf i'r Democratiaid Rhyddfrydol" ers sefydlu'r blaid, gan fynd ymlaen i ddweud "bod hwn yn gyfnod tywyll" iddyn nhw.

'Noson anodd iawn'

Dywedodd y Farwnes Jenny Randerson: "Mae'n noson anodd iawn i ni, ond nid yw'n syndod llwyr gan nad yw'r polau piniwn wedi bod yn dda i ni am fisoedd lawer."

Ychwanegodd na fydd ei phlaid yn gallu ail-adeiladu dros nos yn dilyn canlyniadau siomedig - ac mai etholiad y Cynulliad yn 2016 fydd y cyfle cyntaf i ailafael yn y gwaith.

Mae'r ddau berson oedd yn bennaf gyfrifol am y trafodaethau clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr yn 2010 - Danny Alexander a David Laws - wedi colli eu seddi yn yr etholiad.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru y bu'n "noson echrydus i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru".

Ychwanegodd: "Wrth edrych ar ble mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i fod o ran seddi yn ddaearyddol, mae'n mynd i fod yn anodd iawn iawn ailadeiladu plaid gydag aelodau mor anghymarus."

Fore Gwener, fe gyhoeddodd arweinydd y blaid, Nick Clegg - oedd yn ddirprwy brif weinidog yn y llywodraeth ddiwethaf - ei fod yn ymddiswyddo yn dilyn canlyniadau'r etholiad.

Yn ôl Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC: "Dwi'n meddwl gallwn ni fod yn sicr mai Tim Farron fydd yn cymryd ei le fe".