UKIP: Farage yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniadau'r etholiad cyffredinol yn golygu mai UKIP yw'r drydedd blaid fwyaf yng Nghymru.
Mi oedd perfformiad y blaid yn gryf mewn nifer o seddi ac mi ddaethon nhw yn ail mewn sawl etholaeth gan gynnwys Blaenau Gwent, Merthyr ac Islwyn.
Mi ddywedodd David Rowlands, ymgeisydd y blaid ym Merthyr y gallen nhw edrych ymlaen at gael "ffigyrau dwbl" o Aelodau Cynulliad yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Paul Dark, cefnogwr y blaid bod pobl am "newid ac mae newid yn dod yn slo bach."
Yn ôl Sam Gould, ymgeisydd UKIP yng Nghaerffili, mi oedd y canlyniad yno yn wych. Mi ddaethon nhw yn ail yn yr etholaeth.
"Rydyn ni wedi cynyddu ein pleidlais wyth gwaith. Does yna neb wedi cynyddu eu pleidlais mor gyflym a hynny... Mae hwn yn blatfform mawr ar gyfer Cynulliad Cymru flwyddyn nesaf."
Mi ddywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill ar twitter fod hon wedi bod yn noson "hudolus" iddyn nhw.
Er hyn, doedd hi ddim yn fêl i gyd i'r blaid ddydd Gwener. Wedi iddo fethu ag ennill sedd De Thanet, mae arweinydd y blaid, Nigel Farage wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo dros yr haf.
Fodd bynnag, fe awgrymodd y bydd yn ymgeisio eto am yr arweinyddiaeth yn y man.