'Leanne y person iawn i arwain'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,

Leanne Wood sydd wedi bod yn arwain Plaid Cymru ers 2012

Mae un o Aelodau Cynulliad blaenllaw Plaid Cymru wedi dweud y gall y blaid adeiladu ar berfformiad ei harweinydd, Leanne Wood yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol a chyflwyno ei hun fel yr opsiwn amgen ar gyfer swydd y prif weinidog.

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, oedd yn gwrthwynebu ymgyrch Ms Wood ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid yn 2012: "Mae pobl yn gwybod am Leanne, ac yn hoff ohoni."

Mae Simon Thomas hefyd wedi canmol ei pherfformiad yn y dadleuon teledu, gan ddweud bod ei "chynhesrwydd a'i chysylltiad personol" wedi plesio pobl.

"Mae potensial enfawr i Leanne gael ei phortreadu fel y prif weinidog amgen i Gymru", meddai.

Rhedodd Mr Thomas yn erbyn Ms Wood am arweinyddiaeth y blaid, cyn tynnu allan o'r ras a chefnogi ymgyrch Elin Jones AC.

'Gwleidyddiaeth Fisher Price'

Fe rybuddiodd Mr Thomas ar yr adeg, am "wleidyddiaeth Fisher Price".

Dywedodd Mr Thomas ddydd Mawrth nad ceisio sarhau Ms Wood oedd ei nod, ond tynnu sylw at y math o wleidyddiaeth oedd yn bodoli o'i chwmpas.

"Rwy'n credu mai hi yw'r person iawn i arwain y blaid at etholiad y cynulliad", meddai.

Fe lwyddodd Plaid i ddal eu gafael ar dair sedd yn yr etholiad cyffredinol, ond ni lwyddon nhw i ennill eu seddau targed yn Ynys Môn a Cheredigion.

"Os nad ydym yn ennill tir yn etholiad y cynulliad, yna bydd her fawr yn wynebu Plaid Cymru," meddai Mr Thomas.