Dyn yn pledio'n euog i lofruddio dynes gafodd ei saethu

Marcus Huntley yn cyrraedd Llys y Goron Caerdydd yn gynharach yn yr wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae un o chwe diffynnydd yn achos dynes a gafodd ei saethu'n farw mewn fflat yn Rhondda Cynon Taf, wedi newid ei ble i euog.
Bu farw Joanne Penney, 40, ar 9 Mawrth 2025 yn dilyn digwyddiad mewn fflatiau yn Llys Illtyd, Tonysguboriau.
Mae Marcus Huntley yn un o bedwar dyn a dwy fenyw sydd yn y llys wedi'u cyhuddo o'i llofruddiaeth.
Bu Huntley, o Gaerdydd, yn treulio'r bore yn trafod gyda'i gyfreithwyr, cyn iddo ddychwelyd i'r llys ychydig cyn 13:00, ble y gwnaeth ei fargyfreithiwr Thomas Crowther KC ofyn i'r cyhuddiad gael ei gyflwyno iddo eto.
Cafodd y cyhuddiad o lofruddiaeth ei gyflwyno i Huntley, a phan ofynnwyd iddo sut yr oedd yn pledio i'r cyhuddiad, atebodd ei fod yn euog.
Mae achos llys y pump o'r diffynyddion eraill: Kristina Ginova, Joshua Gordon, Tony Porter, Melissa Quailey-Dashper a Jordan Mills-Smith, yn parhau ac maen nhw'n gwadu llofruddio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl