Cymru ar y brig ar ôl curo Gwlad Belg

  • Cyhoeddwyd
baleFfynhonnell y llun, Reuters

Cymru 1-0 Gwlad Belg

Mae Cymru ar frig Grŵp B yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 ar ôl curo Gwlad Belg - sy'n ail ar restr detholion y byd - yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Fe ddaeth y gôl fuddugol gan Gareth Bale ar achlysur ennill ei hanner canfed cap i Gymru yn dilyn camgymeriad erchyll gan amddiffyn y Belgiaid.

Mae'r fuddugoliaeth hefyd yn golygu y bydd Cymru ymysg y prif ddetholion pan fydd yr enwau'n dod o'r het ar gyer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 fis nesaf - dair blynedd yn ôl roedd Cymru'n 112 ar restr detholion y byd.

Fe greodd Cymru ambell gyfle arall hefyd, ond roedd amddiffyn Cymru yn arwrol wrth i'r Belgiaid reoli llawer o'r meddiant.

Ond er y meddiant, ychydig iawn o ergydion at y gôl gafodd yr ymwelwyr wrth i'r pump yn y cefn i Gymru daflu eu cyrff o flaen y bêl dro ar ôl tro.

Disgrifiad,

Ymateb Osian Roberts

Roedd yr hyfforddwr a cyn chwaraewr Marc Lloyd Williams yn sylwebu i Cymru Fyw o'r stadiwm a dywedodd:

"Roedd o'n berfformiad bendigedig ac anhygoel gan filwyr Chris Coleman.

"Mi faswn i wedi bod yn hapus â phwynt ar ddechrau'r noson, ond i tri yn erbyn y tim sydd yn ail ar restr detholion y byd yn anhygoel.

"Rhaid rhoi clod i Chris Coleman sut y gwnaeth o drefnu ei dîm. Fe aeth amdani!"

Ffynhonnell y llun, EPA

Aeth y canlyniadau yn y gemau eraill chwaraewyd nos Wener o blaid Cymru hefyd gydag Israel - sy'n drydydd yn y grŵp - yn colli yn Bosnia.

Yr unig nodyn sur i Gymru oedd y cerdyn melyn a welodd Joe Allen yn yr hanner cyntaf sy'n golygu na fydd ar gael ar gyfer gêm nesaf Cymru yn y gystadleuaeth yn erbyn Cyprus.

Rhoddodd Chris Coleman deyrnged i'r cefnogwyr yng Nghaerdydd.

"Pan oedd yr anthem yn cael ei chanu ar y dechrau ac yn ystod y gêm roedd o'n rhoi gwefr anhygoel.

"Doedd o ddim y perfformiad gorau gan y bois, ond fe wnaethon nhw frwydro, a chael eu haeddiant."

Mae gan Gymru bedair gêm yn weddill - Cyrpus a Bosnia oddi cartref ac Israel ac Andorra yng Nghaerdydd. Fe ddylai dwy fuddugoliaeth arall fod yn ddigon, ond mae'r momentwm nawr o blaid tîm Coleman.

Rowndiau rhagbrofol Euro 2016 - Grŵp B:

  1. CYMRU - 6 gêm; 14 pwynt

  2. Gwlad Belg - 6 gêm; 11 pwynt

  3. Israel - 6 gêm; 9 pwynt

  4. Cyprus - 6 gêm; 9 pwynt

  5. Bosnia Hercegovina - 6 gêm; 8 pwynt

  6. Andorra - 6 gêm; 0 pwynt