Tatŵ newydd yn 94 oed: Record byd?

  • Cyhoeddwyd
Gwladys Williams
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Gwladys y tatŵ ym Manod ger Blaenau Ffestiniog wythnos diwethaf

Ydy Gwladys Williams o Flaenau Ffestiniog wedi torri record byd ar ôl cael ei hail datŵ yr wythnos diwethaf yn 94 oed?

Dyna'r cwestiwn gafodd ei ofyn ar raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru fore dydd Llun.

Roedd Mrs Williams ar y rhaglen i sôn am datŵ o enw ei gor-wyres, Leri Ann, a'r geiriau "Leri & Nain Forever" oddi tano.

Fe gafodd hi'r tatŵ ym Manod ger Blaenau Ffestiniog wythnos diwethaf, a hynny cyn i Leri Ann adael Cymru i deithio yn yr Unol Daleithiau am gyfnod.

Ond wnaiff Gwladys Williams ddim gadael i Leri Ann gael tatŵ chwaith, rhag ofn y bydd yn ei rhwystro rhag cael swydd: "Dudwch bod hi eisiau job - chewch chi ddim job os oes ganddo chi datŵ".

Disgrifiad,

Tatw newydd yn 94 oed: Record byd?

Nain galed

Ychwanegodd Mrs Williams: "Mae gen i 57 neu 58 o or-wyrion a gor-wyresau. Dwi wedi magu lot ar Leri ar y dechrau a 'Nain' ddaru hi weiddi gyntaf, pan oedd hi ddim ond yn rhyw wyth neu naw mis oed."

Doedd y profiad o gael tatŵ, y tro yma na'r tro diwethaf, ddim yn un poenus meddai hi: "Ddaru fo ddim effeithio arna i o gwbl - a dyma mam Leri oedd yno ar y pryd yn dweud 'da chi'n galed' nain.

"Ddaru mi ddim teimlo dim byd y tro cyntaf chwaith - oedd o ddim yn brifo yr adeg hynny."

Wrth drafod ei thaith i'r Unol Daleithiau, dywedodd Leri Ann wrth y rhaglen: "Dwi jyst isho change bach, a dwi'n gwybod bydd fy nheulu i yna am byth i mi, felly dwi just am fynd i drafeilio a mwynhau fy hun.

"22 oed ydw i. Dwi'n mynd i ddysgu plant i ddringo a reidio ceffylau. Mae hynna'n ddau passion mawr gen i.

"I ddechrau dwi'n mynd i Pennsylvania, ac wedyn Duw a ŵyr lle dwi am fynd. Dwi'n mynd i drafeilio a gweld lle mae'r byd yn mynd a fi."