Cymorth mewn galar

  • Cyhoeddwyd
Ray Gravell gyda'i ferched Manon a GwenanFfynhonnell y llun, Teulu Gravell
Disgrifiad o’r llun,

Ray Gravell gyda'i ferched Manon a Gwenan

Roedd colli Ray Gravell yn ergyd fawr i Gymru, ond doedd y golled yn ddim i'w chymharu â'r golled bersonol i Mari ei wraig a'i ferched Manon a Gwenan.

Nawr mae Manon a Gwenan wedi mynd ati i sefydlu gwefan Project 13, dolen allanol i helpu pobl ifanc eraill ymdopi gyda'r galar o golli un o'u hanwyliaid. Mae'r rhif 13 yn symbolaidd gan mai hwn oedd y rhif yr oedd eu tad yn ei wisgo ar ei gefn yn ystod ei yrfa rygbi. Maen nhw'n sôn mwy am eu hamcanion wrth Cymru Fyw:

"Effaith enfawr"

Yn 2007, bu farw ein tad Ray Gravell o drawiad ar y galon, yn 56 oed, ar wyliau yn Sbaen. Roeddem ni'n 12 (Manon) ac yn naw oed (Gwenan) ar y pryd. Mae colli rhiant ar unrhyw adeg yn eich bywyd yn anodd ond mae colli rhiant mor ifanc yn gallu cael effaith enfawr ar berson ifanc.

Wrth gael ein pasio o un lle i'r llall gydag elusennau a grwpiau sy'n helpu pobl i ddelio gyda galar, daeth Prosiect 13 i'n meddyliau.

Fe gawsom y syniad wrth sylweddoli ar ddiffyg y cymorth perthnasol oedd ar gael i blant a phobl ifanc.

Ar ôl cysylltu gyda nifer o elusennau a grwpiau cymorth gyda syniadau newydd, fe wnaethom benderfynu mai trwy greu gwefan ein hun oedd y ffordd orau o ddarparu'r gwasanaethau roedden ni'n teimlo oedd yn angenrheidiol i bobl ifanc yn yr un sefyllfa â ni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon a Gwenan Gravell yn gobeithio helpu pobl ifanc gyda'r broses alaru ar ôl colli eu tad Ray yn 2007

Rhannu profiadau

Ar hyn o bryd mae Prosiect 13 yn cynnig platfform i bobl ifanc i rannu eu straeon o golled gyda chymuned o bobl ifanc eraill o'r un profiadau â nhw. Fe wnaethom ni ddod i'r casgliad fod galar yn gallu bod yn unig iawn. Rhywbeth oedd yn glir iawn i ni oedd bod llawer o bobl ifanc yn teimlo nad oes neb yn deall y ffordd maen nhw'n teimlo.

Mae Prosiect 13 yn medru cysylltu'r bobl ifanc yma gyda'i gilydd i greu cymuned o bobl o'r un oedran sy'n deall yn gwmws beth rydych yn ddelio ag e.

Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cael llawer mwy o wybodaeth ar y wefan, gan gynnwys gwybodaeth am gynghorwyr yn yr ardal leol, pwy yn yr ysgol all helpu ac unrhyw wefannau arall all helpu.

Ry'n ni'n gobeithio wneith y prosiect helpu rhywun cyn i'r sefyllfa waethygu. Fel dwy chwaer ry'n ni wedi elwa trwy fod yn gefn i'n gilydd.

Ry'n ni'n gobeithio gall bobl ifanc eraill sydd heb rywun i siarad â, ffeindio rhywun drwy'r wefan.

Y cyngor gorau allwn ni rhoi fel dwy sydd wedi delio gyda cholled yn ifanc yw siarad gyda rhywun am sut rydych chi'n teimlo, hyd yn oed os ydych yn teimlo eich bod ddim yn medru delio gyda'ch teimladau.

Fe fydd rhaid i ni gyd ar ryw adeg yn ein bywydau ddelio gyda cholled, a phan ddaw'r adeg hynny i berson ifanc fe all Prosiect 13 gynnig cyngor a gwybodaeth - a ffrind sy'n deall.

Ry'n ni'n falch iawn o beth ry'n ni wedi ei greu, ac ry'n ni'n sicr o ddatblygu'r wefan ymhellach dros y blynyddoedd i ddod.

Ffynhonnell y llun, Gravell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ray Gravell wedi gwirioni gyda'i ferched Manon a Gwenan