Pryder am effaith rheolau newydd yn y diwydiant tatŵs

  • Cyhoeddwyd
Andy Millard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andy Millard wedi bod yn gwneud tatŵs ers dros 30 o flynyddoedd

Mae pryder y gall cynllun newydd sy'n ceisio codi safonau yn y diwydiant tatŵs yng Nghymru gael yr effaith anghywir.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant i gael trwyddedau, ac i gyrraedd safonau gofal ac iechyd.

Ond mae un sy'n gwneud tatŵs, Andy Millard, yn poeni y bydd creu cofrestr genedlaethol yn gyrru pobl i stiwdios 'stryd-gefn', all fod yn beryglus.

Byddai stiwdios o'r fath yn gallu cael eu sefydlu mewn cegin yn defnyddio offer gafodd ei brynu ar y we.

Ychwanegu cost

Dywedodd Mr Millard, sy'n gyn feddyg gyda'r fyddin ond sydd wedi bod yn gweithio yn y maes ers dros 30 o flynyddoedd: "Os ydyn nhw'n codi'r bar yn rhy uchel, yna mae'n ychwanegu at y gost.

"Bydd hynny'n cael ei basio ymlaen i'r cleient. Mae'n rhwyddach wedyn i bobl benderfynu 'Ydw i am fynd i stiwdio neu ydw i am fynd i weld y dyn i lawr y ffordd am ei fod yn llawer rhatach?'"

Yn ol Julie Barratt o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd Cymru bod angen arian i weithredu'r cynlluniau, neu mae'n bosib na fyddan nhw'n cael eu cyflawni.

"Nid yw hynny'n ddymunol. Ni fyddai'r pwerau yn cael eu rhoi oni bai bod angen, ac mae'n glir bod yna angen."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cynghorau yn gallu codi tal am drwyddedau, er mwyn lleihau'r gost o gynnig y gwasanaeth.

Bydd mwy ar raglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales am 12:30 ddydd Sul 28 Mehefin.