Y Fedal Ryddiaith i Tony Bianchi

  • Cyhoeddwyd
Tony Bianchi
Disgrifiad o’r llun,

Nofel athronyddol wedi'i lleoli yng Nghaerdydd enillodd y Fedal Ryddiaith i Tony Bianchi

Tony Bianchi sy'n ennill y Fedal Ryddiaith eleni mewn cystadleuaeth ardderchog a ddenodd 15 o ymgeiswyr, gyda thri ohonynt yn deilwng o'r Fedal ei hun.

'Dwy' neu 'Dau' oedd y testun eleni ac, yn ôl y beirniad Mari Emlyn, llwyddodd y testun i ysbrydoli'r awduron i archwilio trawsdoriad eang o themâu, gydag amryw yn delio neu'n cyffwrdd â thema galar a cholled.

Wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei chyd-feirniaid, Jerry Hunter a Manon Steffan Ros, dywedodd Mari Emlyn:

"Nofel athronyddol wedi ei lleoli yng Nghaerdydd ydi hi, ond nid man penodol sydd o bwys yma ond teithiau meddwl Tomos Glyn Rowlands a'i ddiddordeb obsesiynol mewn synau. Cais Tomos wneud synnwyr o'i fywyd yn sgil y synau a glyw: "Mae modd clywed ychydig a deall y cwbl. Ond mae modd clywed y cwbl a deall dim."

"Yn wir, roedd y tri ohonom yn gytûn bod hwn yn waith cyffrous ac yn delynegol o athronyddol gan ein denu i fyd od Tomos Glyn Rowlands. Dyma un o ysgrifenwyr mwyaf gwreiddiol y gystadleuaeth. Fel y mae synau'n troi 'n rhan o fyd mewnol Tomos, felly hefyd mae'r nofel afaelgar hon yn tywys y darllenydd i ganfod y byd o'i gwmpas o'r newydd. Dyma waith cynhyrfus a gwreiddiol sy'n codi i dir uchel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tony Bianchi wedi cyhoeddi pedair nofel cyn hyn

Tair cyfrol yn deilwng

Ychwanegodd: "Nid oes amheuaeth gan yr un o'r tri ohonom nad oes gennym dair cyfrol wahanol iawn eleni a'r tair yn gwbl deilwng o'r Fedal Ryddiaith ac rydym yn llawenhau yn llwyddiant y tri awdur hwn....Chwaeth a thrwch esgyll gwybedyn yn y diwedd sy'n gwahaniaethu rhwng y tri gwaith.

"Buaswn wedi ceisio perswadio fy nghyd-feirniaid i wobrwyo Sami Defis Jiwniyr eleni oni bai fy mod innau'n gorfod cydnabod fod yna fân wendidau yn strwythur y stori. Manion yn unig, ond digon i wahaniaethu rhwng y gyfrol hon a gwaith caboledig Mab Afradlon.

"Hoffai'r tri ohonom longyfarch yr ymgeiswyr i gyd, ond yn arbennig felly Willesden Green, Sami Defis Jiwniyr a Mab Afradlon ar eu gwaith ardderchog. Rydym fel beirniaid yn unfryd, wedi pwyso a mesur, mai'r gwaith glanaf, mwyaf gwreiddiol mewn cystadleuaeth dda yw eiddo Mab Afradlon."

'Cloddio yn y teimladau dwfn'

Ar ôl y seremoni yn y pafiliwn prynhawn dydd Mercher, dywedodd Tony Bianchi wrth Cymru Fyw:

"Mae awdur wastad yn mynd i dwrio trwy domen sbwriel y galon, a dyna beth wnes i, es i i gloddio yn y teimladau dwfn yma yn fy is-ymwybod, a phwy a wyr beth sydd i'w gael yn yr is-ymwybod, felly o fanna daeth e.

"Nid syniadau ŷ'n nhw, delweddau sy'n dod yn sydyn, 'y chi'n bachu'r ddelwedd a mynd â hi am dro, ac mae'n arwain rhywle chi ddim yn gwybod.

"Mae modd cynllunio'n fanwl dydw i ddim yn berson sy'n gallu gwneud hynny. Neu mae'r peth yn troi'n beiriannol, felly dwi'n tueddu i wneud pethau mewn ffordd fwy organig - er gwell neu er gwaeth - a dyw e ddim yn gweithio bob amser.

"Ond yn y nofel yma, achos mae dim ond 40,000 o eiriau yw e, mae modd gwneud hynny, achos chi ddim yn gorfod trafod gormod o elfennau plot na chymeriadau, chi'n gallu canolbwyntio ar un broses, un llinyn storïol wedyn."

Ac wrth gyfeirio at ei argraff gynta' wrth godi yn y pafiliwn y pnawn 'ma, meddai: "Mae sefyll o dan y golau fel bod mewn pennod o Star Wars!"

Disgrifiad,

Seremoni Priflenor Rhyddiaith / Prose Medal Ceremony

'Euogrwydd ac anobaith'

Ganed Tony Bianchi yn 1952 yn North Shields, Northumberland. Yno mae'n dweud iddo gael "gwersi cynnar mewn euogrwydd ac anobaith" trwy fynychu ysgolion pabyddol, dilyn y tîm pêl-droed lleol a bod yn fab i blismon. Dysgodd fwy am y cyflyrau hynny pan aeth i Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, lle gwnaeth astudiaeth o waith Samuel Beckett a dysgu Cymraeg.

Wedi cyfnodau yn Shotton ac Aberystwyth, ymgartrefodd yng Nghaerdydd, gan weinyddu grantiau ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru am yn agos i chwarter canrif. Cofnodir rhai o ryfeddodau'r corff hwnnw a'i debyg yn ei nofel gyntaf, Esgyrn Bach (Y Lolfa, 2006).

Cyhoeddodd bedair nofel arall: Pryfeta (Y Lolfa, 2007), a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint, Chwilio am Sebastian Pierce (Gomer, 2009), Bumping (Alcemi, 2010) a Ras Olaf Hari Selwyn (Gomer, 2012); a chyfrol o storïau byrion, Cyffesion Geordie Oddi Cartref (Gomer, 2011).

Daeth rhai o'i englynion i sylw darllenwyr trwy gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol a Barddas. Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gymar, Ruth, ac o fewn pellter seiclo i'w blant, ei wyrion a'i wyresau.

Cyflwynir y Fedal a'r wobr ariannol o £750 gan bapur bro 'Plu'r Gweinydd'.

Cafodd y Fedal Ryddiaith ei chyflwyno am y tro cynta' yn un o Eisteddfodau arall Powys, ym Machynlleth yn 1937 - gallwch ddarllen ychydig o gefndir y wobr yma.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.