Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg i Mel Williams o Lanuwchllyn

  • Cyhoeddwyd
Mel Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mel Williams: "Mae'r Eisteddfod wedi newid... yn sylweddoli pwysigrwydd gwyddoniaeth yn y Gymraeg."

Mewn seremoni ar faes y Brifwyl, mae Mel Williams o Lanuwchllyn, wedi derbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg am ei gyfraniad i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn athro wrth ei alwedigaeth cyn ei ymddeoliad, mae Mel Williams hefyd yn awdur toreithiog.

Trefnodd arddangosfa'r Gymdeithas Wyddonol yn yr Eisteddfod o 1973-75, a gweithredu fel Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth y Brifwyl yn ystod ei hymweliad ag ardal Maldwyn yn 1981.

Bywydeg yw maes Mel Williams, ac mae'i gyfraniad i'r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnwys cyhoeddiadau niferus, aelodaeth o Banel Termau Gwyddonol CBAC, a chyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth y Cyd-Bwyllgor ar ddechrau'r 90au.

Yn ogystal â'i ddiddordeb a'i arbenigedd mewn gwyddoniaeth, bu Mel Williams yn adnabyddus fel golygydd cylchgrawn 'Y Casglwr' o 1988-2012 gan sicrhau lle teilwng i erthyglau am wyddoniaeth yn ystod ei gyfnod fel golygydd.

Coes pry yn ysbrydoli

Wrth siarad â rhaglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Williams:

"Ges i'm magu yn Nhalysarn yn Nyffryn Nantlle, ac roedd pob dim yn Gymraeg yn Ysgol Talysarn , ond yn yr ysgol uwchradd, Saesneg i gyd...

"Dwi'n cofio'n glir un pnawn dydd Gwener... o'n i wedi bod yn ddrwg 'ella, neu wedi cael fy newis i glirio ar ôl y diwrnod, a dyma Robat Williams yr athro yn dangos rhywbeth i mi... microsgop... edrych i mewn iddo fo, a weles i rywbeth fel penelin a blewiach mawr arno fo. 'Ti'n gwbod be 'di hwnna?', medda fo. 'Sgen i'm syniad'. 'Coes pry, medda fo.' 'Waw', a ma' hwnna di aros efo fi.

"Pan es i i'r Ysgol Uwchradd, roedd gen i athrawes arbennig iawn, Mair Evans. Yn Saesneg roeddan ni'n neud Bywydeg ond roedd hi'n siarad Cymraeg.

"Yn y chweched dosbarth, ges i amser. 'Mond y fi oedd yn neud Sŵoleg... A dwi di dadelfennu bob anifail sydd yn y byd yma... A dwi'n gweld pobl yn mynd i neud cwrs meddygaeth a heb agor anifail yn eu bywydau, a thaset ti'n saethu fi'n yn ysgwydd nawr, mi fedrwn i ddeud yn union pa wythïen fysa'n cael ei saethu efo'r fwlad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mel yn dathlu gyda'i deulu ar y maes ddydd Iau

Arloesi yn Ysgol y Gader

"O'n i'n athro ym Morgan Llwyd wedyn ac yn dysgu gwyddoniaeth yn Saesneg, a dechra' meddwl am y peth. Be 'di pwrpas bo fi fan hyn yn dysgu gwyddoniaeth yn Saesneg mewn ysgol Gymraeg?

"A doth Dr Neville Evans i ymweld â fi, a deudais i wrtho fo 'mod i'n meddwl am ddysgu'n Gymraeg. 'Ardderchog' medda fo... ac mi roddodd andros o hwb i fi.

"Es i Ysgol y Gader wedyn, a dechra' dysgu Bywydeg yn Gymraeg yno yn syth bin... i dair merch: Bethan, Meinir a Sian.

"Ond doedd pobl ddim yn sicr iawn... 'Da ni fel Cymry erioed wedi cael y traddodiad o ddarllen gwyddoniaeth yn y Gymraeg'. Es i ati wedyn i hel llyfrau gwyddonol, ac roedd 'na gannoedd ohonyn nhw ond ddim yn berthnasol i'r maes llafur wrth gwrs. Ond roedd o'n rhoi hyder iddyn nhw: 'O 'da ni wedi bod yn y maes yma.'

"Nes i gysylltu â CBAC, ac mewn dwy flynedd roedd yna bapur arholiad Cymraeg. A'r tair yma oedd y rhai cyntaf erioed i sefyll arholiad bywydeg yn Gymraeg, 1973 oedd o.

Cyfrinach Dinas Mawddwy

"Mae'r Eisteddfod wedi newid dros y blynyddoedd... yn ara' bach dyma sylweddoli pwysigrwydd gwyddoniaeth yn y Gymraeg.

"Bob eisteddfod roeddwn i'n neud fframiau i gofio gwyddonwyr enwog yr ardal, efo'r Gymdeithas Wyddonol wrth gwrs... Er mwyn dangos i Gymru bod gynnon ni wyddonwyr enwog.

"Dros y mynydd i fi yn Ninas Mawddwy, roedd William Roberts ym 1879, roedd o'n astudio bacteria, ac agorodd y caead a gweld patches gwyn clir o gwmpas y bacteria, a be' oedd o, roedd penicillium wedi mynd i mewn. A fo oedd y cynta' i gofnodi ymateb penicillin i bacteria... ac fe ddoth Fleming wedyn..."

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015