Dilwyn ar y dibyn
- Cyhoeddwyd
Does dim llawer o bobl sy'n gallu rhoi cyngor i'r anturiaethwr Bear Grylls ar sut i oroesi yn yr awyr agored, ond mae Cymro o Borthmadog yn eu plith.
Ond dros yr wythnosau nesaf bydd Dilwyn Sanderson-Jones yn cynghori wyth o gystadleuwyr mewn cyfres newydd ar S4C.
Bydd y pedwar dyn a'r bedair ferch ddewr sy'n cymryd rhan yn 'Ar y Dibyn' yn cystadlu mewn gweithgareddau awyr agored gwahanol yn ardal Eryri, gyda'r gobaith o ennill swydd mewn canolfan awyr agored.
Mae gan Dilwyn flynyddoedd o brofiad yn y maes, yn cynnwys cyfnod yn y fyddin, ac mae wedi gweithio ar gyfresi'r anturiaethwr Bear Grylls yn y gorffennol. Erbyn hyn mae'n rhedeg ei gwmni gweithgareddau awyr agored ei hun yn Eryri. Bu'n siarad â Cymru Fyw am ei brofiadau:
Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn gweithgareddau awyr agored?
Pan oeddwn i tua 12 oed yn gweithio yng nghaffi y dringwr enwog Eric Jones yn Nhremadog. Mi ge's i gyfle i ddringo efo fo ar raglen teledu o'r enw 'Pobl Port' pan oeddwn i'n 13.
Beth oeddet ti'n ei wneud ar raglen antur Bear Grylls?
Ro'n i'n gyfrifol am ddewis lleoliadau yn Eryri i ffilmio, ac hefyd yn gyfrifol am holl ddiogelwch y gweithgareddau, o waith rhaffau i waith diogelwch yn y dŵr. Roedd yn brofiad gwych a gobeithio ga i fwy o gyfleoedd felly yn y dyfodol.
Sut fath o weithgareddau mae'r cystadleuwyr yn gorfod mynd i'r afael â nhw yn ystod 'Ar y Dibyn'?
Maen nhw'n dringo, beicio mynydd, canŵio a hefyd gwneud gweithgareddau 'gwahanol'. Chwarae teg, rhoddodd yr wyth ymgeisydd 100% ym mhob dim!
Mae'r ardal yma o Gymru yn fendigedig a rydan ni'n lwcus iawn i gael gymaint o gyfleoedd i gymryd rhan yn y gweithgareddau yma ar ein stepan drws ein hunain.
Wyt ti erioed wedi cael/gweld damwain wrth ffilmio ar gyfer rhaglen deledu?
Naddo. Dwi a fy nghriw yn rhoi pwyslais enfawr ar ddiogelwch. Mae'n rhaid yn fy musnes i. Fel mae'r hen ddywediad yn ei ddweud: "Prior planning prevents poor performance".
Beth ydy'r pump eitem hanfodol er mwyn goroesi yng nghanol nunlle?
Yr angen neu eisiau i lwyddo ac i fyw
Y gallu i wneud lloches
Y gallu i wneud tân
Dŵr
Bwyd