Llwyddiant yn nhermau Cymru?

  • Cyhoeddwyd
coleman

Mae geiriau newydd yn dod i fodolaeth bron yn ddyddiol, ond a yw'r Gymraeg ar ei hôl hi wrth fathu termau newydd?

Er enghraifft, ar ôl i dîm Cymru ennill eu lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop 2016, roedd 'na lawer o sôn yn Saesneg am "Wales have qualified" ond, os feddyliwch chi, be 'di'r gair Cymraeg am 'qualify'?

Mae Dr. Tegau Andrews yn Derminolegydd Addysg Uwch ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, dolen allanol.

Mae hi'n sôn wrth Cymru Fyw am rai o'r cymhlethdodau a'r heriau sydd yna wrth fathu termau newydd yn y Gymraeg:

Arloesi

Yn aml, newyddiadurwyr a chyfieithwyr yw'r bobl gyntaf i orfod trafod rhywbeth yn Gymraeg - boed yn ddatblygiadau arloesol mewn gwyddoniaeth neu mewn chwaraeon - a gall hyn greu panics llwyr.

Sut mae dod o hyd i air Cymraeg cyfatebol? Pwy sy'n gyfrifol am greu termau newydd i'n hiaith yn dilyn llwyddiant ar y cae chwarae neu fan arall? Y cyhoedd? Panel o ieithwyr mewn tŵr ifori?

Yr ateb yw, yr un o'r ddau. Yn gyntaf, rhaid deall nad yw term technegol yr un peth â gair cyffredin, ac nad yw termau technegol wastad yn addas i'w defnyddio yn y cyfryngau.

Iaith arbenigol

Mae term yn label ar gysyniad arbennig sy'n perthyn i faes arbennig. Iaith arbenigol felly. Petaech yn darllen erthygl newyddion am Lance Armstrong a'i anturiaethau doping siawns da y gwelech chi'r ymadrodd "camddefnyddio cyffuriau", sy'n gwbl dderbyniol at ddibenion newyddion.

Ond, mewn cyd-destun technegol o fewn chwaraeon, y term safonol yw "dopio", gan fod doping yn cyfeirio nid yn unig at ddefnyddio cyffuriau i gael mantais annheg dros athletwyr eraill, ond hefyd at ddefnyddio dulliau sydd wedi'u gwahardd. (A chyn cwyno bod y term yn "Seisnigaidd", cofiwch mai o'r Iseldireg mae'n dod yn wreiddiol!)

Disgrifiad o’r llun,

D am diolch, D am dathlu - mae rhai geiriau yn ddigon hawdd!

Beth am 'qualify'?

Mae cwpl o ymadroddion y gallwch chi eu defnyddio am qualify felly, fel "mae Cymru wedi mynd drwodd i Euro 2016" neu "wedi ennill lle yn Euro 2016".

Mae'r ymadroddion hyn, y naill o Eiriadur yr Academi, dolen allanol (dan y gair qualifier) a'r llall o'r Termiadur Addysg , dolen allanol(o dan "qualify in a competition"), yn berffaith iawn, a does dim angen cymhlethu pethau trwy ddyfeisio term technegol arbennig na fydd y cyhoedd falle'n ei ddeall.

Disgrifiad o’r llun,

Canolfan Bedwyr

Ond pan mae angen term technegol newydd ar gyfer rhywbeth, mae rheolau rhyngwladol i ni eu dilyn. Ie, dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain yn stryffaglu gyda hyn - mae pob iaith, bach a mawr, yn cael trafferthion gyda thermau newydd, ac felly mae rheolau rhyngwladol yn bodoli ar sut i ddelio â nhw.

Rheolau rhyngwladol

Mae'r Corff Safonau Rhyngwladol (ISO) yn creu safonau ynglŷn â thermau yn yr un ffordd â maent yn creu safonau ynglŷn â sut i adeiladu pontydd saff neu sut i ddiogelu adeilad rhag daeargryn. Fel adeilad, hoffen ni ddim gweld iaith yn dechrau simsanu wrth i graciau ymddangos yn ei sylfaen.

Weithiau mae angen creu term newydd ("bathu term"), ac weithiau mae angen cytuno ar ba derm sydd fwyaf addas ar gyfer cyd-destun penodol allan o'r geiriau sydd eisoes yn bodoli ac sy'n cael eu defnyddio ("safoni term").

Un o'r rheolau rhyngwladol yw y dylai grŵp o bobl gydweithio i fathu a safoni termau: cymysgedd o bobl sy'n arbenigwyr ar y maes (fel chwaraeon), a phobl sy'n arbenigo mewn iaith ac sy'n deall y rheolau rhyngwladol (terminolegwyr).

Dylanwad y cyhoedd a'r we

Weithiau, mae term technegol yn codi mewn trafodaeth gan y cyhoedd - mewn blogiau, ar Twitter, ar Facebook, yn y newyddion - fel arfer, mae'n derm o fyd technoleg gwybodaeth neu chwaraeon. Mewn sefyllfa fel hyn, mae'r gair mae'r cyhoedd yn ei ddefnyddio yn dylanwadu'n naturiol ar yr hyn sy'n cael ei bennu'n derm safonol.

Er enghraifft, pan gafodd Facebook ei gyfieithu gan griw o wirfoddolwyr, dechreuwyd sôn am y ffenomen hon yn Gymraeg. Y gair Saesneg am gyfieithu yn y dull hwn yw crowdsourcing. Yn Hacio'r Iaith 2011 cododd y term "torfoli", a dyma Rhodri ap Dyfrig yn trydar yn ei gylch.

Tarddiad torfoli yw'r gair "torf" a'r terfyniad berfol "oli", fel yn arholi, gwirfoddoli, a lleoli (ond nid fel yn brocoli). Mae'r term hwnnw erbyn hyn wedi'i bennu'n safonol a'i gyhoeddi ar wefan y Porth Termau Cenedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dechnoleg newydd yn golygu heriau newydd i'r iaith Gymraeg

Os ydych chi'n chwilio felly am derm technegol, ewch i'r Porth Termau Cenedlaethol, dolen allanol, sy'n cynnwys llu o eiriaduron termau safonol, neu llwythwch yr Ap Geiriaduron i'ch dyfeisiau iOS ac Android (mae hwn yn cynnwys geiriaduron termau Y Termiadur Addysg a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol).

Am dermau sy'n ymwneud â'r llywodraeth, ewch i BydTermCymru, dolen allanol. Os ydych yn chwilio am ymadroddion a geiriau bob-dydd, ewch i Geiriadur yr Academi, dolen allanol a Geiriadur Prifysgol Cymru, dolen allanol.