Coed Glyn Cynon

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Un o'r cerddi cadwriaethol cyntaf mewn unrhyw iaith, medden nhw, yw "Coed Glyn Cynon" a gellir teimlo ing bardd anhysbys y 16eg ganrif hyd heddiw.

Llawer bedwen las ei chlog

(ynghrog y bytho'r Saeson)

Sydd yn danllwyth mawr o dân

Gan wŷr yr haearn duon.

Pe bai'r bardd wedi gweld Cwm Cynon bedair canrif yn ddiweddarach, pan oedd gwaith y Ffwrni yn tagu'r trigolion lleol er mwyn sicrhau cyflenwad o danwydd 'di-fwg' i'r dinasoedd mawrion, mae'n debyg y byddai hyd yn oed yn fwy cynddeiriog.

Mae'r lle wedi gwella erbyn hyn ond go brin y bydd y ceirw coch y hiraethai'r bardd ar eu hôl yn dychwelyd yn y dyfodol agos.

O leiaf bod gwleidyddion ein hoes ni yn derbyn bod diogelu ac adfer ein hamgylchfyd yn rhan o'u priod waith. Yn wir fe osodwyd dyletswydd statudol i wneud hynny ar ysgwyddau'r Cynulliad pan sefydlwyd y lle yn ôl yn 1999.

Ymdrech i gyflawni'r ddyletswydd honno yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - llond ceg o ddeddf sy'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i wneud bob math o bethau da a pheidio gwneud pob math o bethau drwg

Efallai eich bod yn synhwyro fy mod braidd yn sinigaidd ynghylch y ddeddf. Nid fi yw'r unig un. Wedi'r cyfan oedd gwir angen deddf i ddweud wrth gyrff cyhoedd y dylen nhw weithio i sicrhau Cymru Lewyrchus, Cymru Iachach, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd eang a'r gweddill?

Dyw e ddim yn syndod efallai bod ambell i wleidydd yn cyfeirio at y peth fel y "Motherhood and Apple Pie Act"!

Un peth mae'r ddeddf yn gwneud yw sefydlu swydd "Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol". I raddau helaeth y Comisiynydd fydd yn gyfrifol am roi tipyn o gig ar esgyrn y peth.

Trwy bori Cymru Fyw cewch weld bod penodi Sophie Howe cyn-gynghorydd arbennig i'r llywodraeth a chyn ymgeisydd a chynghorydd Llafur i'r swydd wedi achosi tipyn o gynnwrf.

Nid fy lle i yw barnu ai Ms Howe yw'r person gorau i'r swydd ai peidio ond roedd cynrychiolwyr o bob plaid ar y panel wnaeth argymell ei phenodiad. Pwynt arall sy gen i yn fan hyn.

Mae cwynion y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ynghylch y penodiad yn rhyfeddol o debyg i'r cwynion gan Lafur ynghylch penodiadau i gyrff enwebedig yn y dyddiau cyn datganoli. Un o'r dadleuon dros sefydlu'r Cynulliad oedd y byddai llwyth o'r cyrff hynny'n diflannu ac, yn wir, yn 2004 fe gynnodd Rhodri Morgan goelcerth y cwangos.

Beth sydd wedi digwydd ers hynny?

Wel, mae'r comisiynwyr yma wedi dechrau ymddangos fel madarch dros nos gan ddenu union yr un fath o feirniadaeth a'r cwangos gynt.

Ai'r cyfan sydd wedi digwydd yw ein bod wedi symud o oes y "quangocracy" i oes o gomisariaeth ?