Cyn-brifathro: 'Cam-drin 100 o fechgyn'?

  • Cyhoeddwyd
Jon Styler
Disgrifiad o’r llun,

Fe grogodd Jon Styler ei hun yn 2007

Gallai cyn-brifathro o Gasnewydd - sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin rhywiol hanesyddol - fod ymysg y pidoffeiliaid sydd wedi troseddu amlaf yn hanes diweddar Cymru, yn ôl cyfreithwyr y rhai sy'n ei gyhuddo o ymosod arnyn nhw.

Mae cyfreithwyr yn dweud y gallai Jon Styler - laddodd ei hun yn ystod ymchwiliad gan yr heddlu - fod wedi cam-drin dros 100 o fechgyn.

Roedd Styler yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud y dylid edrych eto ar sut ddeliodd yr heddlu â'r achos, ac y gellid cynnwys yr achos yn Ymchwiliad Goddard, sy'n edrych ar gam-drin rhywiol hanesyddol ledled Cymru a Lloegr.

Fe grogodd Jon Styler ei hun yn 2007 wedi honiadau yn gynharach yn y flwyddyn honno ei fod wedi cam-drin bachgen yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Malpas.

Arolwg mewnol

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sally Holland yn teimlo y dylid edrych yn fanylach ar sut y deliwyd ag achos Jon Styler

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod na wnaeth Heddlu Gwent gysylltu'r honiad yn 2007 ag adroddiad gan rywun arall yn 2005, oedd yn honni fod Jon Styler wedi cam-drin bechgyn eraill yn yr ysgol.

Nawr mae'r llu wedi dechrau arolwg mewnol oherwydd ymchwiliad BBC Cymru. Mae'r BBC hefyd wedi cael ar ddeall fod cwyn swyddogol gerbron Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Fe ddywedodd Andrew Collingbourne, cyfreithiwr sy'n cynrychioli nifer o'r rhai sy'n cyhuddo Styler o ymosod arnyn nhw: "Dw i'n credu mai megis crafu'r wyneb ydyn ni ... gallai fod 100 a mwy o ddioddefwyr."

Fe ddywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, wrth BBC Cymru fod Adroddiad Clywch yn 2004 wedi cynnig argymhellion ar sut y dylai cyrff cyhoeddus gofnodi a rhannu gwybodaeth am achosion cam-drin plant yn rhywiol.

Mae hi'n teimlo y dylid edrych yn fanylach ar sut y deliwyd ag achos Jon Styler.

Mae'r Athro Holland hefyd yn credu y gallai Ymchwiliad Goddard edrych ar y mater.

Ychwanegodd: "Fe fyddwn i'n cefnogi unrhyw ddioddefwyr fyddai'n dymuno cyfeirio'r achos yn ei flaen a byddai fy swyddfa'n barod i'w cefnogi i wneud hynny."

Dim cofnod

Dywedodd Cyngor Casnewydd nad oes cofnod o Heddlu Gwent yn cysylltu â'r awdurdod yn 2005 na 2007 wedi'r honiadau.

Yn ogystal, fe ddywedodd y cyngor nad oes cofnod o ffeiliau personél Jon Styler.

Ychwanegodd yr awdurdod na allai wneud sylw pellach gan fod y mater yn rhan o gais am iawndal.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Ian Johnston: "Bydd rhan o'r ymchwiliad mewnol nawr yn edrych ar y posibilrwydd o achosion eraill.

"'Mae angen eistedd, a rhoi'r broses a'r dulliau ar droed er mwyn sicrhau nad ydy'n digwydd eto."

Gallwch glywed mwy ar Week In Week Out: My Teacher the Paedophile, BBC1 Wales 22.35, ddydd Mawrth 10 Tachwedd.