Cynnil gyda'r colur

  • Cyhoeddwyd
Carey MulliganFfynhonnell y llun, Pathe
Disgrifiad o’r llun,

Un o brif sêr y ffilm, Carey Mulligan

Mae Siân Grigg wedi gweithio ar rai o ffilmiau mawr Hollywood, ond roedd arwain adran golur, gwallt a deunydd prosthetig y ffilm 'Suffragette' yn brofiad go wahanol. Bu'n sôn am ei phrofiadau wrth Cymru Fyw.

Sylweddoli'r aberth

"I ddechrau, fe wnaeth gweithio ar y ffilm i mi sylweddoli pa mor ddewr a phenderfynol oedd y menywod yma. Roedden nhw'n gweithio'n galed ac yn cael eu trin yn wael. Roedden nhw o flaen eu hamser.

"Roedd Granny'n arfer siarad lot am y Suffragettes - y ffaith eu bod yn clymu eu hunain i'r railings. O edrych yn ôl, dwi'n meddwl ei bod hi'n meddwl eu bod i gyd yn wallgo.

"Beth doeddwn i ddim yn ei wybod ar y pryd oedd faint o aberth wnaethon nhw i gael y bleidlais. Faint wnaethon nhw ddioddef yn y carchar, yn gwrthod bwyta, yn cael eu gorfodi i fwyta - y driniaeth gawson nhw.

"Fel rhan o'r gwaith ymchwil i'r ffilm, fe ddarllenais lawer o'r dystiolaeth o'r cyfnod. Roedden nhw'n cael eu trin yn ofnadwy, ac roedd rhyddid gan yr heddlu i wneud beth bynnag oedden nhw mo'yn."

'Dim sgrap o golur'

Un o'r penderfyniadau mwya' i Siân wrth baratoi ar gyfer ffilmio oedd dewis peidio â rhoi colur ar wynebau rhai o sêr y ffilm, fel Carey Mulligan ac Anne-Marie Duff. Roedd hynny, medd Siân, yn benderfyniad dewr.

Ffynhonnell y llun, Pathe
Disgrifiad o’r llun,

Anne-Marie Duff a Carey Mulligan yn 'Suffragette'

"Doeddwn i ddim eisiau iddyn nhw edrych yn 'Hollywood-aidd'.

"Unwaith mae'r diwydiant yn Hollywood yn gweld eu hactores, maen nhw eisiau iddi edrych ei gorau, gyda lot o golur. Ond ar y ffilm hon, roedd gen i'r rhyddid i beidio â defnyddio colur.

"Roedd y menywod yn ein stori ni o'r dosbarth gweithiol. Roedd eu bywydau nhw'n galed - os wyt ti'n byw mewn tenement, dwyt ti ddim yn gallu golchi dy wallt a dy gorff yn aml.

"Roeddwn i ishe iddyn nhw edrych yn real, yn frwnt, heb golur.

"Roedd Carey (Mulligan) yn ffantastig, doedd hi ddim eisiau edrych yn dda, roedd hi eisiau edrych yn real - doedd dim sgrap o golur arni y rhan fwyaf o'r amser.

"Dim ond weithiau bydden ni'n ychwanegu colur, ar gyfer golygfa pan fydde'r cymeriadau'n teimlo'n well eu byd, ond roedd hynny'n anaml."

Portreadu'r caledi

Ond doedd hynny ddim yn golygu nad oedd digon o waith i Siân a'i hadran.

Ffynhonnell y llun, Pathe

Roedd y golygfeydd yn y tŷ golchi yn arbennig o anodd, meddai.

"Roedd hi'n oer iawn yno mewn gwirionedd, ond roedd yn rhaid i ni wneud i'r merched edrych fel petaen nhw'n chwysu yn y gwres, eu dwylo'n goch gyda'r gwaith caled a phothelli ar eu coesau".

Ar gyfer golygfeydd y ras geffylau, roedd 40 yn gweithio i'r adran golur, oedd hefyd yn gyfrifol am y gwalltiau.

"Dwi ddim yn credu fy mod i wedi gweithio ar ffilm oedd â chymaint o fenywod ynddi o'r blaen. Roedd hi'n cymryd tua 45 munud i weithio ar bob menyw, ac roedd eu cael nhw i gyd allan mewn pryd ar gyfer ffilmio yn her."

Ffynhonnell y llun, Sian Grigg
Disgrifiad o’r llun,

Siân wrth ei gwaith ar ffilm arall, 'Far From The Madding Crowd' (2015)

Gwobr i Carey?

Mae Siân yn meddwl y gallai Carey Mulligan ennill gwobr am ei phortread o'r olchwraig Maud Watts yn y ffilm. Mae gwybodusion y byd ffilm yn rhagweld y gallai'r actores - sydd â cysylltiadau agos ag ardal Llandeilo - gael ei henwebu am Oscar.

O fod wedi gwylio'r 'Suffragette', mae Siân yn dweud ei bod hi'n falch iawn o'r ffilm.

"Mae'n anodd gwneud ffilm hanesyddol sy'n cadw'ch diddordeb chi a'ch sylw chi yr holl amser, ond mae hyd y ffilm yn berffaith. Mae hi'n ddigon byr. Dyw hi ddim yn dragio.

"Fe fwynheais i'r ffilm, ond rhaid i fi gyfaddef, ro'n i'n edrych lot ar fy ngwaith i, ac yn chwilio am gamgymeriadau!"