Yn ein dwylo ni?
- Cyhoeddwyd
Gydag arian yn brin a denu busnes i gefn gwlad yn anodd sut mae gwneud yn siŵr fod yr economi yn ffynnu mewn cymunedau bach?
Grŵp o bentrefwyr o Benygroes yng Ngwynedd yw'r diweddaraf i droi at y syniad o sefydlu busnes cymunedol i ateb y broblem.
Mae mudiad 'Dyffryn Nantlle 2020' , dolen allanolyn gobeithio troi hen adeilad Siop Griffiths, sydd wedi bod yn wag ers pum mlynedd, yn llety, caffi, busnes beics a gweithgareddau awyr agored a lle i hyfforddi pobl ifanc.
"Mae gennym ddau ddewis - disgwyl i gwmnïau mawr o rywle arall ein 'hachub' neu dyfu a rheoli'r economi lleol ein hunan," meddai Ben Gregory, un o arweinwyr yr apêl sydd wedi bod yn gofyn i bobl leol gyfrannu arian i brynu'r hen siop er mwyn creu busnes newydd.
Mae cyfnod eu hapêl drosodd ac maen nhw'n dweud eu bod bellach yn y broses o roi cynnig am y siop.
"Roedd ganddon ni syniadau cryf am be' roedden ni eisiau eu gwneud ac wedyn ar ôl sbïo ar Siop Griffiths roedd hi'n bosib ei ffitio mewn i be' oedden ni eisiau ei wneud yn y dyfodol," meddai Ben Gregory o'r grŵp sydd yn ceisio gwella Dyffryn Nantlle .
"Roedden ni'n teimlo fel grŵp os nad oedden ni'n gwneud rhywbeth fase neb arall," ychwanegodd.
Os ydyn nhw'n llwyddo i godi'r arian i brynu'r siop mae'n nhw'n gobeithio y gallan nhw ymgeisio am grantiau er mwyn sefydlu a rhedeg y busnes wedyn.
Ai dod at ein gilydd yw'r ateb?
Felly ai sefydlu mentrau busnes cymunedol yw'r ateb i geisio cadw cymunedau bach Cymru'n fyw?
Mae Ben Gregory yn gweld y syniad o sefydlu busnes cydweithredol lleol fel ffordd o ddod dros y brif broblem i unrhyw fusnes, sef diffyg arian i gychwyn busnes, yn enwedig mewn ardal wledig neu yn ein cymunedau tlotaf.
"Un o'r pethau sy'n stopio busnesau rhag sefydlu - rhai cymdeithasol neu beidio - yw diffyg cyfalaf," meddai.
"Mae pobl yn sôn, yn arbennig am y Cymry Cymraeg, eu bod nhw ddim yn entrepreunerial. Dwi ddim yn cytuno efo hynny o gwbl - dwi'n gweld lot o bobl yn gwneud lot o stwff cymdeithasol a chymunedol lle maen nhw'n greadigol ac yn cynnal canolfannau sy'n dangos elw bob blwyddyn - maen nhw'n gwybod sut i reoli arian.
"Beth sydd ddim ganddyn nhw yw'r cyfalaf i ddechrau busnesau.
"Rydyn ni'n wynebu'r un peth efo Siop Griffith, dyna pam rydyn ni'n gofyn i bobl i brynu siârs ynddo i gael y cyfalaf i'w brynu."
Mae Myrddin ap Dafydd, aelod o fwrdd tafarn gydweithredol y Fic yn Llithfaen, Pen Llŷn, yn credu bod mentrau cymunedol yn ateb i gymunedau bach wrth i arian a gwasanaethau gael eu canoli fwy a mwy.
"Mae mentrau cymdeithasol mewn pentrefi ac ardaloedd gwledig yn ffynnu gan fod cymaint o ganoli, diffyg gwasanaeth a diffyg gwerth yn perthyn i'r hyn sy'n cael ei alw'n Economi y dyddiau yma," meddai Myrddin ap Dafydd.
"Mae banciau, siopau, garejus, tafarnau yn cau; mae swyddfeydd yn mynd ymhellach a gofal am y cwsmer yn diflannu. Mae mentrau lleol bach yn ffordd o gynnig gwasanaeth i'r fro a hefyd yn dangos be sy'n bwysig a be sy'n cyfri go iawn," meddai.
Digon o frwdfrydedd?
Ond dydi hi ddim yn hawdd rhybuddia Marc Jones, Cadeirydd Canolfan Gymraeg Wrecsam, Saith Seren, sydd wedi cael ei rhedeg yn gydweithredol ers 2012.
"Y dewis ydy naill ai colli adnodd neu'r opsiwn anodd, sef trïo codi pres a ffeindio digon o bobl i gynnal y peth yn y tymor hir.
"Ond does dim dwywaith ei bod hi'n anodd iawn.
"Mae'r profiad 'den ni di ei gael yn brofiad mae nifer fawr o bentrefi cymunedol yn ei gael, sef bod ton mawr o frwdfrydedd ar y cychwyn wedyn yn raddol bach mae'r llanw'n troi ac mae pobl yn blino - yr un hen rai sy'n cymryd rhan, felly mae cael ton arall o wirfoddolwyr a gweithwyr yn bwysig iawn."
Er hynny mae'n dal i gredu y gallai mentrau cymdeithasol fod yn fodel busnes llwyddiannus yng Nghymru ond bod angen dod dros y broblem o geisio dod o hyd i'r pres i gychwyn y fenter.
Mae hyfforddiant neu gymorth arbenigol cyfreithiol ar gael drwy Ganolfan Gydweithredol Cymru, meddai ond mewn cymunedau tlawd "does 'na ddim y cyfalaf yn aml iawn i brynu adeilad, i stocio siop, talu am fan ac yn y blaen."
Oherwydd hynny dywed yr hoffai weld "system lle mae na fanc cydweithredol, sy'n gallu cefnogi'r math yma o beth un ai drwy gyfraniad neu fenthyciad sy'n fforddiadwy fel ei fod yn rhoi ryw fath o sicrwydd bod rhywun yn gallu cychwyn."
'Model Cymreig' o weithio
Er mai rhedeg ei fusnes ei hun mae'r cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen mae wedi dechrau ymddiddori yn y syniad o fusnes cymunedol.
Ar sail ei brofiad yn rhedeg bwyty Tŷ Golchi ger Bangor mae'n credu bod y busnes a'r gymuned yn rhan annatod o'i gilydd.
"Mae'r busnes yn bwydo oddi ar y cwsmeriaid lleol ond mae'r cwsmeriaid yn cael budd o ddefnyddio'r bwyty fel adnodd hefyd," meddai.
Mae diddordeb Tudur wedi cynyddu hefyd wedi iddo gyflwyno rhaglen beilot i S4C, dolen allanol yn ddiweddar sy'n dilyn ymgais grŵp o Ynys Môn i greu marchnad bysgod leol.
"Dwi'n meddwl fod 'na rai mathau o bobl busnes sydd efallai'n sbïo lawr eu trwynau ar fentrau busnes cymunedol ac yn meddwl ei fod yn rhywbeth worthy, dibynnol ar grantiau, ddim wir yn fusnes 'go iawn'.
"Ond os fysan ni'n medru trïo cael y ddau fyd yna at ei gilydd, dwi'n siŵr fod 'na rwbeth yna - a chreu rhywbeth sydd bron yn unigryw Gymreig, ryw fodel Cymreig o weithio ... "
'Y Gymraeg yn hwb i fusnes'
Mae Tudur Owen hefyd yn credu bod cynnig gwasanaeth Cymraeg yn hwb i unrhyw fusnes ac mae'n rhan o'i weledigaeth ar gyfer creu ffordd 'Cymreig' o redeg busnes yn y gymuned:
"Dwi'n synnu gymaint o gwmnïau sy'n colli allan drwy beidio cynnig gwasanaeth Cymraeg achos dwi'n argyhoeddiedig na fysan ni'n gneud hanner y busnes ryden ni'n ei wneud os na fasen ni'n cynnig gwasanaeth ddwyieithog.
"Felly, tybed oes 'na ffordd arall o wneud busnes yma yng Nghymru? Dwi'n meddwl ein bod ni'n dueddol o efelychu modelau ryden ni'n ei weld yn y Deyrnas Unedig, lle 'falla' fod na set o reolau gwahanol inni efo'r iaith a'r ffaith ein bod ni'n gymuned eitha' gwledig o hyd - ella' fod 'na fodel gwahanol o fedru creu busnesau."
Cynnig rhywbeth unigryw
Yn ogystal â'r iaith mae Ben Gregory yn pwysleisio fod cynnig gwasanaeth i'r cwsmer sy'n unigryw i'w hardal nhw yn rhan bwysig o'u cynllun busnes:
"Y ffordd mae canoli yn gwneud arian ydy cynnig yr un peth i bawb ac mae hyn yn fygythiad mawr i'r Gymraeg, felly be rydyn ni'n trio ei greu ydy rhywbeth sy'n unigryw, lle mae pobl yn gallu cael profiad nad ydyn nhw'n gallu ei gael yn rhywle arall.
"Yr unig ffordd rydyn ni'n gallu tynnu pobl yma yw canolbwyntio ar amrywiaeth a pha mor unigryw ydy be ydyn ni'n gynnig a rhan o hynny ydy yr iaith a'r diwylliant lleol," meddai.