Pryder effaith cau banciau ar gymunedau

  • Cyhoeddwyd
Banciau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Barclays a HSBC wedi gadael Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin yn y blynyddoedd diwethaf

Mae BBC Cymru wedi darganfod bod 28 o gymunedau ar draws Cymru wedi colli eu banciau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae elusen Age Cymru yn dweud bod hyn yn cael effaith ddifrifol ar fywydau pobl hŷn sy'n byw yn yr ardaloedd yma.

Ym mis Mawrth, fe wnaeth y British Bankers Association - corff sy'n cynrychioli'r sector banciau ym Mhrydain - gytuno i gydweithio gyda chwsmeriaid a chymunedau er mwyn lleihau effaith cau canghennau.

Ond mae'r undebau'n dweud na fydd hyn yn cael effaith gwirioneddol, gyda rhai asesiadau effaith yn cael eu cyhoeddi llai nag wythnos cyn bod cangen yn cau.

Mae Age Cymru yn dweud bod canghennau lleol yn chwarae rôl allweddol ym mywydau pobl hŷn er mwyn sicrhau nad ydyn nhw yn dod yn ynysig.

Disgrifiad,

Gohebydd BBC Cymru Gareth Bryer aeth i holi'r cyhoedd am eu barn ar y banc symudol

Dywedodd Iwan Rhys Roberts o Age Cymru: "Mae o'n creu mwy o risg bod pobl hŷn yn cael pobl eraill yn cymryd mantais ohonyn nhw, yn cymryd arian genyn nhw.

"Er enghraifft, 'da ni'n gwybod bod nifer o bobl wedi rhoi cardiau banc a manylion banc i aelodau'r teulu neu i ofalwyr fynd at y banc.

"Mae 'na wagle yn ein cymunedau ni. Pan mae banciau yn cau mae'n gadael twll ar y stryd fawr. Mae'n gadael twll ym mywydau pobl."

Mae busnesau wedi dweud wrth BBC Cymru bod banciau yn rhan allweddol o'r stryd fawr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Douglas yn dweud bod llai o alw am ganghennau lleol bellach

Mae'r busnesau a holwyd yn dweud bod pobl sy'n bancio mewn canghennau lleol yn debygol o fynd i siopau eraill, a bod colli cangen yn golygu colli masnach.

Ond mae'r banciau yn dadlau bod opsiynau gwahanol o ran bancio yn golygu bod ymweliadau i ganghennau lleol wedi cwympo yn sylweddol.

Dywedodd NatWest bod bancio ar y we ac ar ffonau symudol wedi cynyddu mwy na 300% ers 2010, ac mai dim ond 9% o'u gwasanaeth sy'n digwydd mewn canghennau bellach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cau banciau yn creu "gwagle yn ein cymunedau ni", medd Iwan Rhys Roberts

Mae Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Mark Douglas yn dweud bod defnyddio faniau bancio symudol yn ffordd o gyfarfod anghenion pobl leol.

"Ar unrhyw ddiwrnod mae'r banc symudol yn gallu mynd i ddwy neu dair cymuned," meddai.

"Trwy siarad gydag awdurdodau lleol mae'n galluogi ni i fynd i mewn i gymunedau ble mae canghennau wedi cau neu ble nad oes banc erioed wedi bod yno.

"Dydyn ni ddim mewn unrhyw hast i adael unrhyw gymuned. Mae'n benderfyniad anodd ac weithiau emosiynol. Mi ydyn ni wastad yn gwneud yn siŵr bod gennym ni gynllun ystyrlon, cadarn i adael ar ei ôl cyn ein bod ni'n cau unrhyw gangen."

Dywedodd y British Bankers Association nad yw'r penderfyniad i gau banciau yn un hawdd, a'u bod yn gwneud eu gorau i leihau effaith cau banciau ar y cymunedau lleol.