Llywodraeth Cymru'n lansio strategaeth iechyd ddigidol
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl yn medru trin a thrafod â meddyg teulu drwy gyswllt fideo a monitro eu hiechyd eu hunain gydag ap ar eu ffôn symudol fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o'r cynllun bydd mwy o gyfle i bobl drefnu apwyntiadau ar-lein a bydd cleifion yn medru gweld eu cofnodion iechyd ar y we.
Bydd disgwyl i staff y Gwasanaeth Iechyd ddefnyddio dyfeisiadau symudol fel tabledi a ffonau clyfar i gasglu a chofnodi data yn gyflym.
Bwriad y cynllun pum mlynedd yw sicrhau bod technoleg ddigidol "yn ganolog i system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru," meddai gweinidogion.
O dan y strategaeth bydd pobl Cymru'n gallu:
Cysylltu ar-lein gyda'r Gwasanaethau Iechyd - i drefnu apwyntiadau, archebu presgripsiynau a chael trin a thrafod drwy gyswllt fideo.
Cael mynediad at eu cofnodion iechyd ar-lein - er mwyn gweld manylion eu hapwyntiadau ysbyty neu ymweliadau â meddyg teulu, eu presgripsiynau a chanlyniadau profion ac i fwydo manylion sydd efallai wedi eu casglu gan apiau a dyfeisiadau.
Defnyddio offer digidol ac apiau ffonau clyfar i reoli eu hiechyd eu hunain - fel y gall pobl fonitro cyflyrau hir dymor fel diabetes neu asthma. Bydd technolegau clyfar fel synwyryddion yng nghartrefi pobl yn cael eu defnyddio i helpu mwy o bobl i fyw'n annibynnol yn hirach.
Anfon nodiadau atgoffa a rhybuddion - gan gynnwys atgoffa cleifion i gymryd meddyginiaeth neu ymarfer corff, neu fesur cynnydd cynllun gofal penodol.
Bydd wi-fi am ddim yn cael ei gyflwyno ymhob un o ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd fel y gall cleifion, ymwelwyr a staff ei ddefnyddio.
Wrth lansio'r strategaeth, dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fod technoleg ddigidol "bellach yn rhan bwysig o'n bywydau o ddydd i ddydd".
"Ein gweledigaeth yw cael gwasanaethau iechyd a chymdeithasol mwy rhyngweithiol a phersonol sy'n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau ble bynnag a phryd bynnag sy'n gyfleus iddyn nhw," meddai.
Ychwanegodd bod cleifion yn aml yn arbenigwyr ar eu cyflwr a bod rhoi mwy o gyfrifoldeb iddyn nhw am eu gofal yn gallu arwain at ganlyniadau iechyd llawer gwell.