Codi planetariwm ger safle hen lofa?
- Cyhoeddwyd

Y bwriad yw 'ehangu`r diwydiant twristiaeth' yn sgil datblygu prosiect Awyr Dywyll ar Fannau Brycheiniog.
Fe allai Planetariwm Cenedlaethol gael ei adeiladu yn Y Maerdy yn y Rhondda os yw cynlluniau ar gyfer atyniad addysgiadol a thwristaidd yn cael eu gwireddu.
Yr wythnos hon 25 mlynedd yn ôl fe gaeodd y pwll a chollodd 300 eu swyddi.
Mae'n gynnar eto ond mae'r grŵp tu cefn i gynllun Awyr Dywyll yn gobeithio creu 64 o swyddi erbyn 2019.
Y gobaith yw codi'r planetariwm - un o'r rhai mwya yn Ewrop - ger safle'r hen lofa yn y Rhondda Fach.
'Yn bwysig'

Y Llwybr Llaethog
Dywedodd y Cynghorydd Keiron Montague y byddai'r adeilad yn "bwysig yn genedlaethol".
Yn rhan o'r cynlluniau mae awditoriwm, canolfan addysgiadol, caffi yn ogystal ag ail gread o'r Mars Rover.
Hefyd fe fydd arsyllfa i bobl gael astudio'r gofod.
Dywedodd trefnwyr y byddai'r planetariwm dair gwaith maint yr un mwya' ym Mhrydain yn Greenwich, ac yn cynnwys y dechnoleg 3D ddiweddara.
Yn ôl Allan Trow, rheolwr prosiect Awyr Dywyll yng Nghymru, byddai gwaith ymchwil yn asesu pa mor ymarferol yw'r cynlluniau ond y nod yn y pen draw fyddai denu 400,000 o ymwelwyr y flwyddyn.