Henaint ni ddaw ei hunan
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfres newydd o Pawb a'i Farn yn dechrau ar S4C nos Iau, 14 Ionawr. Un o'r panelwyr yn Llanelwy fydd yr Athro Mari Lloyd-Williams, athro a chyfarwyddwr Adran Astudiaethau Gofal Lliniarol, Prifysgol Lerpwl.
Mewn erthygl i Cymru Fyw i gyd-fynd gyda'r gyfres mae hi'n trafod yr her sydd yn wynebu Cymru wrth i'r boblogaeth heneiddio:
Niferoedd ar gynnydd
Ym mis Tachwedd y llynedd mi ges i'r fraint o draddodi Darlith Edward Lhuyd, dolen allanol. Y pwnc oedd heneiddio a gofal a cheisio rhoi sylw i'r henoed sydd yn byw i oedran mawr, ond yn aml iawn gyda nifer o afiechydon fel canser a dementia.
Mae nifer y bobl sy'n byw i fod yn 90 oed wedi treblu yn y 30 mlynedd diwethaf ac mae 840 o bobl dros 90 oed ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr, o'i gymharu â 707 ym mhob 100,000 yn yr Alban a 620 yng Ngogledd Iwerddon. Mae amcangyfrif bod 13,780 o bobl dros 100 oed a bod 710 dros 105 oed.
Mae gofal meddygol yn dibynnu ar label a deiagnosis a does ddim modd trin mwy nag un afiechyd ar y tro - un rheswm pam fod ein henoed yn cael apwyntiadau di-ri mewn clinigau ac ysbytai dieithr ac yn gorfod disgwyl sawl mis am y rhain hefyd.
Colli annibyniaeth
Mae hosbis yn rhoi gofal arbennig i rai sy'n dioddef o ganser. Yn ei gyfanrwydd gall gofal lliniarol gyfrannu llawer i ansawdd bywyd pobl mewn oed gyda'r pwyslais mawr ar ofal holistig sydd yn cynnwys lleddfu problemau corfforol ond hefyd problemau seicolegol, ysbrydol a chymdeithasol.
I'r henoed mae colli annibyniaeth, colli hyder yn aml yn arwain at y salwch anweledig, sef unigrwydd.
Mae ymchwil yn dangos bod unigrwydd yn un o'r ffactorau pwysicaf i ddynodi bod henoed yn fwy tebygol o fod angen gwasanaethau meddygol a chymdeithasol.
Mae pobl sy'n unig yn ymweld â'r meddyg teulu yn amlach, yn defnyddio rhagor o dabledi, ac yn fwy tebygol o fynd i gartref gofal neu gartref nyrsio yn gynt na'r rhai sydd ddim yn unig. Does ryfedd fod hyn yn awr yn poeni ein gwleidyddion gan fod y gost yn enfawr.
Mae ambell hosbis (sydd wrth gwrs yn fudiadau hollol wirfoddol ac yn dibynnu ar arian caredigion i gynnal eu gwaith) yn edrych sut y gallen nhw roi gofal i'r nifer enfawr o bobl oedrannus sydd angen cymorth.
Hosbis St Christopher yn Llundain er enghraifft - mae'n agor ei drysau o 9:00 tan 21:00 pob dydd o'r flwyddyn a chroesawu unrhywun i ymuno gyda llu o weithgareddau gyda'r pwrpas o leihau unigrwydd a felly'r ddibyniaeth ar wasanaethau statudol.
Hawdd darparu gofal fel hyn mewn dinas fel Llundain ble mae nifer o adnoddau ar gael a rhwydwaith drafnidiaeth effeithiol...
Llai o wasanaethau
Yng Nghymru, ble mae nifer fawr o hen bobl, mae'r ystadegau yn dangos bod y cynnydd mwya' yn nifer y bobl oedrannus mewn ardaloedd gwledig, yn hytrach na threfi. Hefyd mae'r cyfartaledd o bobl hŷn yn uwch yn ein cymunedau gwledig nag yn y dinasoedd.
Mae'r siop, yr ysgol, y capel a'r dafarn wedi cau a gwasanaethau bysus yn hen ddiflannu. Yr her ydy darparu gwasanaethau ac mae sawl cyngor sir wedi ceisio cuddio'r mater drwy ddweud nad oes rhaid poeni am ein hen bobl yng nghefn gwlad gan fod pawb yn siŵr o 'nabod ei gilydd a chynnig help os oes angen - ond mae'r realiti'n wahanol iawn.
Ein hangen mawr fel dynoliaeth yw cwnni, cyfeillgarwch a chariad ac mae'r anghenhion hyn yn parhau, ac yn wir, dwysáu wrth heneiddio.
Gall darpariaeth gymunedol wneud cyfraniad pwysig. Yr angen pennaf gyda chanran fawr o'r genhedlaeth hŷn ydy gofal cymunedol yn fwy na gofal clinigol ac yn wir gall gofal cymunedol dda arbed yr angen am ofal clinigol mewn amryw achosion.
Pawb a'i Farn, S4C, nos Iau, 14 Ionawr, 21:30