Ateb y Galw: Iwan Roberts
- Cyhoeddwyd

Y sylwebydd pêl-droed a chyn ymosodwr Cymru Iwan Roberts sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Malcolm Allen yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Mynd i Anfield i weld Lerpwl v Caerlyr pan ro'n i'n bump oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Barbara Windsor yn y ffilmiau 'Carry On'.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Anghofio tynnu fy nannedd gosod allan cyn gêm yn erbyn Nottingham Forest. Roedd y gêm yn fyw ar y teledu ac mi ddaliodd y camera fi'n dod oddi ar y cae hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf i dynnu fy nannedd a'u rhoi nhw i'r hyfforddwr.

Y dannedd gosod yn saff yn y stafell newid!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n reit feddal a bod yn onest ac yn debygol o grio yn aml efo newyddion drwg.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bwyta gormod o 'nialwch.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech. Cwrs gwych a golygfeydd anhygoel.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mi oedd hi mor dda 'dwi wedi anghofio amdani.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Gwladgarol, pwrpasol a thaclus.

Iwan yn ei gyfnod barfog
Beth yw dy hoff lyfr?
'Bravo Two Zero' gan Andy McNab.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy Jeans Nudie - y jîns gora' yn y byd.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Entourage.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Os na fyddai Leonardo DiCaprio ar gael, yna Rhys Ifans.

Bydd rhaid i Leo dyfu barf well na honna i chwarae rhan Iwan Roberts yn ei gyfnod barfog!
Dy hoff albwm?
Kasabian gan Kasabian.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Prif gwrs a steak a chips bob noson o'r wythnos.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
'Swn i wedi licio cael sgiliau Lionel Messi am ddiwrmod.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Jonathan Davies

Mae'r cyn chwaraewr proffesiynol yn paratoi'n drylwyr cyn gafael yn y meic 'na