Y drefn o roi organau
- Cyhoeddwyd
Ers 1 Rhagfyr 2015, mae'r awdurdodau iechyd yng Nghymru'n gallu cymryd organau unigolion sy'n marw oni bai fod yr unigolyn wedi dweud nad yw'n fodlon gadael i hynny ddigwydd. Cafodd y ddeddf yma ei chefnogi gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2013 gan olygu mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio deddf o'r fath.