Dyfodol parciau cenedlaethol yn y fantol?
- Cyhoeddwyd
Gallai dyfodol parciau cenedlaethol Cymru fod mewn perygl yn sgil toriadau sylweddol i'w cyllidebau.
Daw'r rhybudd yna gan Gymdeithas Eryri sy'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu deall pwysigrwydd y gwaith.
Maen nhw'n poeni y gallai toriadau ariannol gynyddu'r galw ar gynghorau sir i ysgwyddo baich gwaith awdurdodau parciau Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro.
Mae cyfarwyddwr elusen cadwraeth wedi dweud ei fod yn poeni am ddyfodol parciau cenedlaethol Cymru, gan eu bod yn wynebu'r posibilrwydd o doriad o 5% yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
"Rydym yn bryderus iawn" meddai John Harold o Gymdeithas Eryri. "Mae'r rhain yn doriadau difrifol i fudiadau eithaf bach."
Mae'r gymdeithas yn credu y gallai'r toriadau wneud y parciau yn fwy agored i alwadau am i gynghorau lleol i gymryd drosodd peth o'u gwaith, gan gynnwys polisi cynllunio.
Beirniadodd Mr Harold Llywodraeth Cymru am eu hagwedd tuag at y parciau.
"Nid ydynt yn deall sut mae parciau cenedlaethol yn gweithio a'r hyn y maent yn ei ddarparu o ddydd i ddydd."
Parciau Lloegr yn ddiogel am 5 mlynedd
Mae cyllid ar gyfer parciau cenedlaethol yn Lloegr wedi ei ddiogelu am bum mlynedd gan y Canghellor George Osborne yn ei Ddatganiad yn yr Hydref. Ond yn ogystal â thoriad o 5% ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae parciau cenedlaethol Cymru wedi cael eu rhybuddio y gallent wynebu toriad arall tebyg y flwyddyn ganlynol.
Mae Emyr Williams, prif weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri, wedi rhybuddio y gallai'r toriadau diweddaraf olygu y gall gwasanaethau a swyddi fod mewn perygl.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, "Mae'n hanfodol ein bod yn cael y canlyniad gorau o'r arian sydd ar gael er mwyn cadw'r cyfan ar gyfer pobl Cymru.
"Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd o ran blaenoriaethau gwario, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynllunio'n effeithiol."