Cyngor i barhau i amddiffyn pentref arfordirol

  • Cyhoeddwyd
Y Friog

Mae trigolion pentref yng Ngwynedd wedi clywed y bydd yr awdurdodau'n parhau i gynnal yr amddiffynfeydd arfordirol yno er mwyn diogelu eu cartrefi am 40 mlynedd arall.

Roedd pentrefwyr Y Friog ger Y Bermo yn dweud bod eu cartrefi wedi eu dibrisio ers y newyddion ddwy flynedd yn ôl fod cynllun mewn lle i golli'r tir i'r môr.

Cynhaliodd swyddogion y cyngor sir ddau gyfarfod ddydd Gwener er mwyn esbonio'r cynlluniau diweddaraf am ddyfodol y pentref.

Clywodd y trigolion y byddai'r amddiffynfeydd, sy'n amddiffyn tua 500 o dai, yn parhau i gael eu cynnal am y 40 mlynedd nesaf.

Colli am byth

Wedi'r cyfnod hwn mae disgwyl y bydd y tir yn cael ei golli am byth ar ôl cael ei ddatblygu fel pentref dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.

Dywedodd grŵp ymgyrchu Y Friog yn Wynebu Newid mai'r peth gorau fyddai i berchnogion tai allu gwerthu eu heiddo am bris y farchnad i Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd neu asiantaeth arall, fel y gallai'r tai gael eu rhentu fel tai fforddiadwy am weddill y cyfnod dan sylw.

Bydd trigolion yn cyfarfod ar 5 Chwefror i drafod y wybodaeth gafodd ei rhannu ddydd Gwener a phenderfynu sut i ymateb.