Cewri'r sgwâr

  • Cyhoeddwyd
welsh - driscoll
Disgrifiad o’r llun,

Gornest enwog y Cymry Jim Driscoll a Freddie Welsh yng Nghaerdydd, 1910

Mae hi'n 90 mlynedd eleni er marwolaeth Jim Driscoll, un o'r bocswyr Cymreig mwyaf dawnus erioed. Ar ôl troi'n broffesiynol yn 1901 aeth y gŵr o Gaerdydd i gystadlu mewn dros 600 o ornestau gan ennill Pencampwriaeth Pwysau Plu Prydain a'r Gymanwlad.

Bydd ei orchestion yn cael sylw mewn ffilm ddogfen, Jim Driscoll: Meistr y Sgwâr, ar S4C nos Wener, 29 Ionawr.

Dyma i chi oriel luniau o rai o'r Cymry disglair eraill i wneud enw iddyn nhw eu hunain ymhlith paffwyr gorau'r byd:

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhieni 'Peerless' Jim Driscoll yn Wyddelod ond ganwyd a magwyd Driscoll yng Nghaerdydd. Bocsiwr pwysau plu yr oedd rhan amlaf ond aeth fyny pwysau yn erbyn Freddie Welsh yn 1910. Stopwyd yr ornest gyda Welsh yn ennill gan fod y dyfarnwr yn dweud fod Driscoll wedi defnyddio ei ben yn anghyfreithlon. Bu farw o'r diciâu yn 1925 yn 44 oed, ac roedd dros 100,000 o bobl ar strydoedd Caerdydd ar gyfer ei angladd.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Freddie Welsh o Bontypridd yn Bencampwr Pwysau Ysgafn y Byd yn 1915. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn America ac roedd yn arloeswr fel hyfforddwr ac yn credu mewn diet arbennig i athletwyr. Bu farw yn Efrog Newydd yn 1927 yn 41 oed, ond erbyn hynny roedd wedi colli ei gyfoeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dyn byr ac eiddil yr olwg oedd Jimmy Wilde o Bendyrus, Y Rhondda, ond roedd ganddo sgiliau bocsio arbennig. Dim ond tair o'i 141 gornest gollodd "The Mighty Atom". Enillodd Bencampwriaeth Pwysau Pry y Byd yn 1916. Mae nifer yn credu hyd heddiw mai Wilde yw un o'r bocsiwr pwysau pry gorau erioed.

Disgrifiad o’r llun,

Glowr o Donypandy oedd Tommy Farr, ond roedd yn ymladd am arian yn 12 oed. Wedi symud i Lundain yn 18 oed fe enillodd sawl gwregys yn y pwysau is-drwm. Ond am ei ornest am Bencampwriaeth Pwysau Trwm y Byd yn erbyn Joe Louis yn 1937 y mae o wedi ei anfarwoli. Cafodd Louis, un o'r bocswyr gorau erioed, ei anafu sawl gwaith yn ystod y 15 rownd, ond penderfynodd y dyfarnwyr, yn unfrydol, a dadleuol, mai'r Americanwr oedd yn fuddugol.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Howard Winstone o Ferthyr Tudful y fedal aur yng Nghemau Gymanwlad Caerydd, 1958. Enillodd 61 o'i 67 gornest gyda tair o'i chwe cholled yn dod yn erbyn Vicente Saldivar o Fecsico. Ond enillodd ei ornest yn erbyn Mitsunori Seki yn 1968 i ddod yn bencampwr y byd. Rhoddodd y gorau i focsio yn 29 gan fyw ym Merthyr nes ei farwolaeth yn 2000. Mae cerflun efydd ohono yn ei dref enedigol.

Disgrifiad o’r llun,

Un arall o dras cyfoethog bocswyr Merthyr Tudful oedd Johnny Owen, neu'r "Merthyr Matchstick" fel roedd o'n cael ei alw oherwydd ei ffram denau ac eiddil. Roedd yn Bencampwr Prydain a Phencampwr Ewrop yn y pwysau bantam. Yn 1980 cafodd y byd bocsio ei ysgwyd i'w seiliau pan fu farw'r Cymro saith wythnos ar ôl cael ei lorio'n anymwybodol yn ystod gornest am Bencampwriaeth y Byd yn erbyn Lupe Pintor.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steve Robinson yn gweithio yn siop Debenhams yng Nghaerdydd cyn iddo ennill Pencampwriaeth Pwysau Plu WBO y byd yn 1993. Collodd ei deitl yn erbyn Naseem Hamed yng Nghaerdydd ym mis Medi 1995.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Joe Calzaghe, o Drecelyn, Bencampwriaeth Uwch Ganol y Byd yn erbyn Chris Eubank yn 1997. Ymysg ei wrthwynebwyr mwyaf adnabyddus oedd Jeff Lacy, Mikkel Kessler, Bernard Hopkins a Roy Jones Jnr. Erbyn iddo ymddeol roedd wedi ennill pob un o'i 46 gornest proffesiynol. Mae'n cael ei gydnabod gan lawer fel un o focswyr gorau Prydain erioed.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Enzo Maccaranelli, o Abertawe, Bencampwriaeth Go-drwm y Byd yn 2003. Collodd i David Haye yn 2008, ac yn y blynyddoedd diweddar mae wedi mynd lawr mewn pwysau. Yn Rhagfyr 2015 enillodd yn erbyn un o'r bocswyr mwyaf medrus erioed, Roy Jones Jnr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Nathan Cleverly o Gefn Fforest radd Mathemateg o Brifysgol Caerdydd. Enillodd Bencampwriaeth Is-Drwm y Byd yn erbyn y Ffrancwr Nadjib Mohammedi yn 2010. Ond yn 2013 collodd yn erbyn Sergey Kovalev mewn gornest yng Nghaerdydd. Mae'n dal i focsio ac yn gobeithio adennill Pencampwriaeth y Byd yn 2016.

Disgrifiad o’r llun,

Lee Selby o'r Barri yw Pencampwr Byd diweddara' Cymru. Cipiodd goron Pwysau Plu IBF y Byd yn erbyn Evgeny Gradovich o Rwsia yn 2015. Dim ond unwaith mae o wedi colli mewn 23 gornest.