'Trist iawn' bod angen hybu cerddoriaeth Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae un o sêr roc Cymru wedi dweud ei fod wedi digalonni bod angen cynnal diwrnod i hybu cerddoriaeth Gymraeg.
Wrth siarad gyda Cymru Fyw am y diwrnod, sydd wedi ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, dywedodd Peredur ap Gwynedd ei fod yn "drist iawn" bod angen y fath ddiwrnod.
Dywedodd y gitarydd efo'r band drwm a bas Pendulum: "Fi'n teimlo'n drist iawn bod isie rhywbeth fel hyn arnon ni ond hapus bod e'n digwydd, achos os yw e'n hybu un person neu dau berson i bigo lan gitar a meddwl bod chware mewn band Cymraeg yn dda, yn cŵl, ma hwnna'n gret."
Fel rhan o'r diwrnod, bydd gig ddigidol arbennig yn cael ei chynnal, a cherddoriaeth yn cael ei hyrwyddo i gynulleidfaoedd newydd.
'Dyle fod yn gryf yn barod'
Mae'r gitarydd wedi teithio'r byd yn chwarae gyda chantorion fel Natalie Imbruglia a Sophie Ellis Bextor, ac mae'n dweud ei fod wedi cael sawl cyfle pan oedd o'n dechrau ei yrfa yng Nghymru.
"Dyle fe fod yn gryf yn barod a bod dim isie y math hyn o help arno fe achos pan o'n i'n ifanc ac yn tyfu lan a dysgu chwarae gitar a bod mewn bandiau odd lot o gigs 'da ni a lot o raglenni ar S4C fatha Fideo 9 yn dangos lot o gerddoriaeth Gymraeg."
Fel rhan o'r diwrnod bydd sawl gig yn digwydd ar draws Cymru, a bydd siop HMV a'r ap cerddoriaeth Deezer yn hyrwyddo cerddoriaeth i'r cyhoedd.
Bydd hashnod #DyddMiwsigCymru hefyd yn cael ei ddefnyddio ar wefannau cymdeithasol.
Bydd Nyth, sy'n trefnu digwyddiadau cerddorol, yn cynnal gig ddigidol am y tro cyntaf wrth i'r DJ Carl Morris a'r cynhyrchwyr cerddorol Carcharorion gael eu ffilmio a'u darlledu'n fyw ar YouTube.
Yn ôl Gwyn Eiddior y syniad yw bod pobl yn mwynhau'r gerddoriaeth adref ar ben eu hunain neu "yn cronni efo'i gilydd mewn grŵps ac yn cael parti bach eu hunain".
Gobaith Gwyn yw y bydd y diwrnod yn denu cynulleidfa newydd i wrando ac y byddan nhw wedyn yn parhau i wneud hynny.
Mae Brigyn hefyd wedi dewis defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i rannu cerddoriaeth Gymraeg - gan roi 100 o ganeuon ar Twitter.
Yn ôl Ynyr Roberts y syniad gwreiddiol oedd 12 cân dros 12 awr ond dywedodd ei fod hi'n amhosib dewis cyn lleied. Ychwanegodd: "Da ni di gweld dewis 100 yn hynod o anodd!"
Dywedodd ei fod o a'i frawd Eurig wedi bod yn ffans mawr o gerddoriaeth Gymraeg ers eu bod nhw'n blant.
"Mae'n beth da bod rhywun yn rhywle wedi meddwl am y peth. Dw i'n meddwl bod o'n syniad gwych.
Mae o'n teimlo mai dyma ffordd y Llywodraeth o "ymfalchïo mewn diwylliant Cymraeg".
'Ddim yn punk rock'
Ond mae Peredur ap Gwynedd, wnaeth gychwyn ei yrfa yn chwarae mewn bandiau Cymraeg, yn cyfaddef y byddai o wedi gwrthwynebu'r syniad o fod yn rhan o ddiwrnod fel hyn flynyddoedd yn ôl.
"Os bydde rhywbeth fel hyn wedi digwydd nôl pan o'n i'n dechre, bydden ni di mynd 'Llywodraeth, no way!' achos rebellion yw rock and roll a dyw gwneud rhywbeth gyda help llywodraeth ddim yn punk rock ofnadwy nagyw e."
Deall y ddadl na ddylai llywodraeth ymyrryd ym myd y canu pop mae Gwyn Eiddior, ond yn cyfaddef: "Ar y llaw arall 'da ni'n byw mewn diwylliant a iaith lleiafrifol lle mae'n canu pop ni yn elfen mor bwysig o'n diwylliant ni.
"Felly fysa fo yn rhyfadd ac yn wiriondeb peidio cefnogi'r peth achos mae bob elfen arall o'n diwylliant yn cael ei gefnogi mewn ffordd ariannol neu ffyrdd erill. Dwi'n meddwl y dylia ni fod yn cefnogi cerddoriaeth bop hefyd."