Agoriad swyddogol Storiel ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Cafodd prosiect Storiel ei lansio a'i agor yn swyddogol ym Mangor ddydd Llun.
Fel rhan o brosiect gwerth £2.6m mae adeilad Palas yr Esgob wedi ei drawsnewid gydag orielau amgueddfaol, orielau celf cyfoes, siop, caffi ac ystafell weithgareddau.
Mae'r prosiect yn cynnig mwy nag adnewyddu adeilad ym Mangor meddai'r trefnwyr - mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau gyda chymunedau, grwpiau ac ysgolion ar draws Gwynedd.
Pedwar prif bwrpas sydd i'r prosiect. Maen nhw'n cynnwys:
adnewyddu Palas yr Esgob at ddefnydd cyhoeddus
agor y drysau ar drysorau cudd casgliadau Prifysgol Bangor,
cynnal cyfres o weithgareddau cymunedol a dysgu gyda chyfle i wirfoddoli a datblygu sgiliau.
Mae'r arian ar gyfer y prosiect yn dod trwy nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Prifysgol Bangor, Cyngor Dinas Bangor, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ashley Family Foundation, Garfield Weston Foundation, Cadw, The Wolfson Foundation, Welsh Slate a Chyfeillion Storiel.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n arwain ar faes Economi a Chymuned: "Mae prosiect Storiel wedi bod yn rhedeg bellach ers bron i ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi llwyddo i gynnal 26 o weithgareddau teulu, 30 o weithgareddau dysgu a chefnogi dros 30 o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio dros 1,000 o oriau.
"Gyda'r adeilad ei hun ar agor ers 30 Ionawr, rydan ni eisoes wedi gweld diddordeb anhygoel gan bob sydd â diddordeb yn y celfyddydau, treftadaeth a hanes Gwynedd ac rydan ni'n hynod falch fod dros 5,000 o bobl eisoes wedi ymweld ers i'r drysau agor ychydig wythnosau'n ôl."