Gwisg genhinen yn dy gap...
- Cyhoeddwyd
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae cannoedd o blant bach Cymru'n gwisgo brethyn a siolau, capiau a chrysau rygbi i nodi diwrnod ein nawddsant.
Diolch i rai o sêr Cymru (a'u rhieni!) am chwilio trwy hen albyms am luniau ohonyn nhw'n blant yn eu gwisg draddodiadol Gymreig. Ond pwy yw'r wynebau enwog? Mae'r atebion ar waelod y dudalen.
Beth am anfon eich lluniau chi aton ni? Ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uk

Anodd credu fod y wyneb diniwed yma'n gallu dweud unrhyw gelwydd... ond ai ei chymeriad yn 'Byw Celwydd' (S4C) oedd yn euog am wneud hynny?

Mae'n amlwg o'r llun bod yr actor yma'n mwynhau dathliadau Gŵyl Ddewi pan yn blentyn, a bu'n actio cymeriad o'r un enw ar Pobol y Cwm.

Mae un o'r ddwy yma'n hoff o dynnu hunlun gydag enwogion o'r byd chwaraeon. Ond pwy yw'r ddwy chwaer? Bydd gwrandawyr cynnar BBC Radio Cymru yn siŵr o nabod eu lleisiau...

Pwy 'di'r cyw fach yma? Mae'n siwr bod llawer o ffans ifanc y ferch fach hon yn gwisgo'u gwisg Gymreig heddiw...

Mae'r bachgen bach direidus yma hefyd yn un o wynebau enwocaf Cymru i blant o dan 6 oed a'u rhieni...

Go brin y bysai'r 'sgidie trymion 'ma'n fawr o iws ar y cae rygbi nac yn stiwdio 'Prynhawn Da'... ond pwy yw'r cyflwynydd a'r dyfarnwr rygbi enwog?

Sgwn i sut steil oedd i wallt y ferch fach yma o dan yr het Gymreig? Mae hi'n enwog am steilio gwalltiau trigolion Cwmderi...

Pwy yw'r bachgen ar gefn ei frawd yn y cardigan liwgar? Mae e'n wyneb cyfarwydd i wylwyr Pobol y Cwm...

Smart iawn! Mi fyddech yn fwy cyfarwydd o'i weld o flaen y camera newyddion y dyddiau hyn...
ATEBION:
1. Yr actores Cath Ayers, sydd newydd orffen actio yn Byw Celwydd ar S4C
2. Yr actor a chyflwynydd Rhydian Bowen Phillips
3. Sara Esyllt a Catrin Heledd, cyflwynwyr BBC Radio Cymru
4. Catrin Herbert, cyflwynydd Cyw
5. Huw Owen, cyflwynydd Cyw
6. Owain Gwynedd, cyflwynydd teledu
7. Lisa Victoria, sy'n chwarae rhan Sheryl Hughes yn Pobol y Cwm
8. Dyfan Rees, sy'n chwarae rhan Iolo Davies-White yn Pobol y Cwm
9. Iwan Griffiths, gohebydd Newyddion a Chwaraeon BBC Cymru
Dydd Gŵyl Dewi Hapus i chi!
Ac ar ôl hyn, os ydych chi eisiau dysgu fwy am nawddsant Cymru, darllenwch: